Newyddion S4C

Cefnogwr wedi marw yn dilyn 'argyfwng meddygol' yn ystod gêm bêl-droed

14/01/2024
Toughsheet Stadium Bolton

Mae cefnogwr wedi marw yn dilyn 'argyfwng meddygol' yn ystod gêm bêl-droed ddydd Sadwrn.

Roedd Iain Purslow, 71, yn gwylio gêm Bolton Wanderers yn erbyn Cheltenham gyda'i fab cyn cael ei daro'n wael.

Mewn datganiad dydd Sul, dywedodd clwb Bolton Wanderers: "Mae Bolton Wanderers yn drist iawn i gadarnhau bod y cefnogwr oedd yn sâl yn y gêm gartref brynhawn ddoe yn erbyn Cheltenham Town wedi marw.

"Fe wnaeth ein cefnogwr gydol oes Iain Purslow ddioddef ataliad ar y galon yn ystod hanner cyntaf y gêm.

"Cafodd y dyn 71 oed driniaeth CPR gan staff meddygol a pharafeddygon yn y stadiwm cyn cael ei gludo i'r ysbyty lle bu farw'n drasig.

"Roedd Iain, sy'n byw yn Oldham, yn y gêm yn cefnogi'r Gwynion gyda'i fab Stuart. Arhosodd Caplan y Clwb, Phil Mason, gydag aelodau’r teulu yn ddiweddarach yn y dydd a bydd y Clwb yn parhau i gynnig yr holl gefnogaeth a gofal y gallant i’r teulu – yn ogystal â cheisio cynnig cymorth i unrhyw un arall yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiad hwn.

"Mae meddyliau pawb sy’n gysylltiedig â Bolton Wanderers gyda theulu ac anwyliaid Iain ar yr amser hynod drist hwn. Bydd Iain yn cael ei gofio yn y gêm yn nhrydedd rownd Cwpan yr FA gartref yn erbyn Luton nos Fawrth."

Prif lun: Steve Daniels / Geograph

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.