Newyddion S4C

'Fy nghraig a fy angor': Teyrnged teulu i ddyn 18 oed fu farw mewn gwrthdrawiad

14/01/2024
Jansen Jones

Mae teulu dyn 18 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad yn Aberpennar wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw Jansen Jones o Aberpennar yn dilyn gwrthdrawiad ar y B4275 am tua 07:40 ar 19 Rhagfyr y llynedd.

Dywedodd ei fam, Rebecca bod gan ei mab "awch am fywyd a chymaint o uchelgais ar gyfer ei ddyfodol.

"Ef oedd cannwyll fy llygad. Ef oedd fy nghraig a fy angor trwy'r amseroedd da a drwg. Mor feddylgar, cwrtais, caredig a gofalgar.

Roedd Jansen wrth ei fodd yn yr awyr agored yn cerdded y mynyddoedd a'r afonydd gerllaw ei gartref meddai ei fam:

"Roedd ganddo awch am fywyd a chymaint o uchelgais ar gyfer ei ddyfodol. Breuddwydiodd am lwyddiant.

"Ef oedd fy ffrind gorau ac ef oedd fy mab hynaf. Fe wnaeth fi y fam ydw i heddiw. Ef oedd y brawd mawr gorau erioed, mor amddiffynnol, ac roedd wrth ei fodd yn bod yn Ddyn y tŷ.

"Mae fy nghalon wedi torri... Rwy'n gweld eisiau ti gymaint Jansen ac ni fydd y boen byth yn diflannu."

'Perffaith'

Dywedodd ei dad, Jason Phillips ei fod yn "garedig ac yn ystyriol."

“Jansen oedd fy unig fab ac roedd yn berffaith ym mhob ffordd , roedd yn garedig ac yn ystyriol ac yn frawd mawr perffaith. 

"Jansen oedd fy machgen, fy ffrind gorau. Mae ein calonnau wedi torri’n llwyr”

Mae Heddlu De Cymru yn parhau gyda'u ymchwiliad ac yn apelio am dystion i’r gwrthdrawiad.

Mae'n nhw'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu trwy ddyfynnu'r cyfeirnod 2300429957.

Llun: Heddlu De Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.