Brenhines Denmarc yn ildio ei choron wedi 52 o flynyddoedd
Mae'r Frenhines Margrethe II o Ddenmarc wedi ildio ei choron gan gamu i lawr ddydd Sul, yn dilyn cyhoeddiad annisgwyl am y penderfyniad mewn neges flwyddyn newydd.
Hi oedd y Frenhines olaf yn Ewrop wedi marwolaeth Brenhines Lloegr, Elizabeth II ym mis Medi 2022.
A hithau yn 83 oed ac wedi esgyn i’r orsedd yn 1972, y Frenhines Margrethe II oedd yr arweinydd benywaidd mwyaf hirhoedlog yn y byd sy’n dal yn fyw.
Mae hi wedi ildio ei choron 52 mlynedd ar ôl esgyn i’r orsedd yn sgil marwolaeth ei thad Frederick IX yn 1972.
Frederick arall sydd yn ei holynu – ei mab, Tywysog Denmarc sy’n 55 oed ar hyn o bryd.
“Rydw i wedi penderfynu mai nawr yw’r amser iawn,” meddai.
Bydd gwraig y Brenin newydd, Frederik, y Dywysoges Mary, hefyd yn cael ei hurddo yn Frenhines.
Mae hi’n dod o Awstralia ac fe wnaethon nhw gwrdd yn Sydney yn ystod Gemau Olympaidd 2000 yn y ddinas.
Gweddill Ewrop
Mae saith brenin a brenhines yn Ewrop ar hyn o bryd, yn teyrnasu dros y Deyrnas Unedig, Denmarc, Norwy, Sweden, Sbaen, yr Iseldiroedd a Gwlad Belg.
Mae Andorra, Liechtenstein, a Monaco hefyd yn dywysogaethau.
Dynion sydd ar yr orsedd yn yr holl deyrnasoedd a thywysogaethau hyn. Ond mae’n annhebygol mai Margrethe II fydd y Frenhines olaf am beth amser.
Mae etifeddion benywaidd yn Sweden, y Dywysoges Victoria, yr Iseldiroedd, y Dywysoges Catharina-Amalia, Gwlad Belg, y Dywysoges Elisabeth, a Sbaen, y Dywysoges Leonor a aeth i’r coleg am ddwy flynedd yng Ngholeg yr Iwerydd ym Mro Morgannwg.