Rhybudd y gallai lluoedd Prydain daro targedau Houthi yn Yemen eto
Mae’r Ysgrifennydd Tramor, Arglwydd David Cameron, wedi awgrymu y gallai Prydain daro targedau Houthi yn Yemen eto os yw’r grŵp yn parhau i ymosod ar longau yn y Môr Coch,
Rhybuddiodd y gallai’r grŵp sy’n derbyn cefnogaeth gan Iran orfodi prisiau nwyddau i fyny ym Mhrydain os ydyn nhw’n parhau i rwystro llongau nwyddau rhag hwlio ar draws y rhanbarth sydd yn hanfodol i fasnach byd-eang.
Fe darodd yr Unol Daleithiau safle arall yn Yemen yn gynnar ddydd Sadwrn ar ôl i’r Houthis addo dial am y cyrch bomio a gynhaliwyd gan yr Americanwyr a’r Awyrlu Prydeinig ddiwrnod ynghynt.
Wrth ysgrifennu yn y Sunday Telegraph, dywedodd yr Arglwydd Cameron y bydd y gweithredu ar y cyd “wedi mynd rhywfaint o’r ffordd i ddiraddio galluoedd Houthi sydd wedi’u hadeiladu gyda chefnogaeth Iran”.
Dadleuodd y byddai peidio â gweithredu yn arwain ar dderbyn y gallai ymosodiadau Houthi “fwy neu lai gau llwybr hanfodol heb unrhyw gosb”.
“Os bydd yr Houthis yn atal y daith hon i longau, mae cadwyni cyflenwi hanfodol dan fygythiad a bydd prisiau’n codi ym Mhrydain ac ar draws y byd.”
'Neges glir'
Dywedodd yr Arglwydd Cameron fod y cyrchoedd awyr yn taro “neges glir” i’r Houthis ein bod “yn benderfynol o roi stop” i’w hymosodiadau ar y Môr Coch.
Ac fe awgrymodd y gallai Prydain ymuno â'r Unol Daleithiau i daro'r Houthis eto os ydyn nhw'n parhau.
“Byddwn yn gweithio gyda chynghreiriaid. Byddwn bob amser yn amddiffyn y rhyddid morwrol. Ac, yn hollbwysig, byddwn yn barod i gefnogi geiriau â gweithredoedd,” meddai.
Dadleuodd yr Ysgrifennydd Tramor fod honiad Houthi bod eu hymosodiadau’n gysylltiedig â rhyfel Israel yn Gaza yn “nonsens”.
“Maen nhw wedi ymosod ar longau o wledydd ledled y byd...” ysgrifennodd.
Yn y cyfamser, amddiffynnodd Syr Keir Starmer ei gefnogaeth i'r ymosodiadau, a orchmynnodd Rishi Sunak heb ymgynghori â'r Senedd yn gyntaf, fel sydd yn digwydd ar brydiau gyda chyrchoedd milwrol.
Wrth ysgrifennu ar gyfer The Independent, dadleuodd yr arweinydd Llafur fod “gwarchod masnach, diogelwch a bywydau o’r pwys mwyaf i’n budd cenedlaethol”.
'Diystyrwch'
Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, wedi beirniadu’r Ceidwadwyr a Llafur am “ddiystyru confensiynau democrataidd” ar ôl yr ymosodiadau milwrol diweddaraf yn Yemen.
Dywedodd yr aelod seneddol: “Mae penderfyniad y Prif Weinidog i orchymyn ymosodiadau RAF ar ganolfannau milwrol Houthi yn Yemen heb unrhyw graffu seneddol o gwbl yn datgelu diystyrwch Rishi Sunak o gonfensiynau democrataidd.
“Mae’r risg o waethygu i’r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol yn gofyn am ddull cain a chynnil i atal ansefydlogrwydd pellach mewn rhanbarth sydd eisoes yn gyfnewidiol.
“Mae 100 diwrnod wedi mynd heibio ers yr ymosodiadau erchyll ar Israeliaid diniwed gan Hamas a’r ymateb anghymesur dilynol gan Israel, sydd wedi arwain at ladd dros 23,000 o bobol. Dylid canolbwyntio ar sicrhau cadoediad yn Gaza, a fyddai’n anochel yn lleddfu tensiynau yn y rhanbarth ehangach."