'Dyn gafodd ei daflu i uffern': Argraffiadau'r gohebydd Sion Tecwyn o hunllef yr is-bostfeistri
Wedi i ddrama Mr Bates v The Post Office daflu goleuni newydd ar sgandal Swyddfa'r Post ag adrodd yr hanes i gynulleidfa eang, y newyddiadurwr Sion Tecwyn sydd yn rhannu ei argraffiadau o'r sgandal, a'r dinistr a achoswyd i gymaint o fywydau.
Bu'n gohebu'n eang ar y stori am flynyddoedd lawer:
Doedd Noel Thomas ddim yn swnio’n hapus, a roeddwn i methu deall pam.
Roeddwn i newydd ddweud wrtho ei fod o, ar ôl 15 mlynedd, wedi ennill ei frwydr gyfreithiol yn erbyn Swyddfa'r Post.
Mis Mawrth 2020 oedd hi, ac yn fuan y bore hwnnw roedd Swyddfa'r Post wedi cyhoeddi nad oedden nhw am wrthwynebu apêl Noel a dros 30 o is-bostfeistri eraill yn erbyn eu euogfarnau.
Mae’n anodd credu heddiw, ond chafodd y cyhoeddiad y diwrnod hwnnw fawr ddim sylw.
Roedd yr achos llys i’w gynnal yn Llundain fis yn ddiweddarach, ond roedd datganiad y Post yn golygu bod apêl yr is-bostfeistri yn sicr o lwyddo.
Ond roedd Noel yn swnio’n fflat, ac yn dangos fawr ddim diddordeb.
Mi ofynais i beth oedd yn bod, a mi wnaeth ei ateb fy llorio i.
“ ‘Da ni yn yr ysbyty efo Arfon y mab. Mae nhw’n deud mai jest mater o amser ydi o.”
Roedd Arfon yn diodde o ganser, a bu farw ddeuddydd yn ddiweddarach yn 50 oed.
Ar ôl rhoi’r ffôn i lawr, mae’n rhaid i mi gyfadda ‘mod i’n agos at ddagrau – amhroffesiynol i newyddiadurwr, fyddai rhai yn dweud.
Roedd y teulu clos, croesawgar yma wedi dioddef 15 mlynedd hunllefus oherwydd camgymeriadau a chelwyddau pobl eraill.
Rwan, ar yr union adeg pan roedd goleuni ar y gorwel, roedden nhw wedi cael ergyd echrydus arall.
Dwi’n adnabod Noel Thomas ers y 90au cynnar. Roedd o’n aelod o Gyngor Ynys Môn, a hynny ar adeg pan roedd y cyngor wastad yn y newyddion am y rhesymau anghywir.
Ond roedd Noel y math gorau o gynghorydd; yn ddyn o egwyddor oedd yn adnabod pawb, yn mwynhau helpu ei etholwyr, ac yn gwybod am bopeth oedd yn mynd ymlaen. Oherwydd hynny, roedd o’n gyswllt ardderchog i newyddiadurwr.
Roedd yn sioc enfawr pan gafodd ei garcharu wedi i £48,000 ddiflannu o gyfri ei swyddfa bost yn y Gaerwen. Roeddwn i’n chael hi’n anodd credu y byddai’n gwneud y fath beth.
Tyfodd fy amheuon pan gynhaliwyd achos 'Proceeds of Crime' yn ddiweddarach – ffordd o ad-ennill arian mewn achosion o dwyll neu gwerthu cyffuriau.
Yn y llys, dwi’n cofio cynrychiolydd Swyddfa’r Post yn dweud yn ddigon ffwrdd â hi; “Dydan ni ddim wedi gallu dod o hyd i’r arian.”
Roeddwn i’n sicr na fyddai Noel wedi sefydlu cyfri banc 'offshore' i guddio’r arian, felly doedd y peth ddim yn gwneud synnwyr.
Llygedyn o obaith
Daeth y llygedyn cyntaf o obaith yn 2009 pan awgrymodd cylchgrawn 'Computer Weekly' bod ‘na amheuon am achosion saith is-bostfeistr.
Roedd hynny’n ddigon o reswm i wneud eitem i raglen Newyddion S4C, lle dywedodd Noel nad oedd o wedi dwyn yr arian, a’i fod o’n amau mai’r sustem gyfrifiadurol oedd ar fai.
Dwi’n cofio bod nifer o fy nghyd-weithwyr i yn stafell newyddion y BBC ym Mangor yn reit amheus am y stori, a hynny am resymau cwbl ddealladwy.
Wedi’r cwbl, roedd Noel wedi pledio’n euog yn y llys. Ond fel mewn achos sawl is-bostfeistr arall, roedd hynny yn sgil pwysau enfawr arno gan Swyddfa’r Post.
Eu tacteg nhw oedd ynysu’r is-bostfeistri wrth ddweud “chi ydi’r unig un.” Roedd hyn yn gelwydd noeth.
29 achos arall
Yn sgil y cyfweliad cyntaf yna, dechreuodd rhaglen 'Taro Naw' ymchwilio, a dod o hyd i 29 achos arall – hwb seicolegol enfawr i’r is-bostfeistri, a sefydlodd fudiad i frwydro am gyfiawnder.
Rhwng 2009 a 2015 fe wnes i sawl adroddiad i Newyddion S4C a Radio Cymru yn dilyn ymgyrch yr is-bostfeistri.
Ond doedd y peth yn cael fawr ddim sylw yn unman arall, ar wahan i 'Computer Weekly' a 'Private Eye', oedd wedi dechrau cymryd diddordeb yn 2011.
Ac roedd Swyddfa’r Post yn gwadu’n bendant bod unrhyw beth o’i le.
Daeth trobwynt yn 2015, pan ddaeth rhaglen ‘Panorama’ o hyd i dystiolaeth bendant fod yna nam ar y sustem gyfrifiadurol, ac yn araf bach daeth y sgandal i’r golwg.
Wrth gwrs, chafodd adroddiadau ar raglenni newyddion Cymraeg ddim effaith o gwbl ar Swyddfa’r Post, nac ar ddatgelu manylion y sgandal ehangach.
Ond dwi’n meddwl fod y sylw cyson ar S4C a Radio Cymru yn y blynyddoedd cynnar yna wedi helpu Noel.
O ganlyniad, roedd pobl Ynys Môn wedi dechrau deall nad oedd o wedi twyllo, ac yn raddol mi dyfodd y gefnogaeth iddo yn lleol.
Roedd y gefnogaeth yna’n amlwg iawn y llynedd, pan ddaeth cannoedd o bobl i lansiad ei hunangofiant.
Yn yr wythnos ddiwethaf, mae wedi bod yn anodd troi’r teledu ymlaen heb weld Noel Thomas ar rhyw raglen neu’i gilydd.
O ganlyniad mae pobl ledled y wlad weld gweld sut berson ydi o - dyn cyffredin, gonest, gafodd ei daflu i uffern gan bobl eraill; pobl oedd yn meddwl bod diogelu eu swyddi eu hunain yn bwysicach na bywydau cannoedd o is-bostfeistri diniwed.
Mae gwytnwch ac urddas Noel a’i deulu drwy’r holl beth wedi bod yn gwbl ryfeddol. Mae’n biti garw nad ydi Swyddfa’r Post, hyd heddiw, yn dangos yr un urddas.