Newyddion S4C

Awyrlu'r UDA'n cynnal cyrchoedd awyr ar dargedau Houthi yn Yemen

13/01/2024
Yr RAF yn lansio

Mae’r Ysgrifennydd Amddiffyn Grant Shapps wedi dweud wrth Iran i annog ei chynghreiriaid i “roi’r gorau ac ymatal” ar ôl i Brydain ymuno â’r Unol Daleithiau i lansio ymosodiadau o'r awyr yn erbyn gwrthryfelwyr Houthi yn Yemen yn gynharach yr wythnos hon.

Rhybuddiodd Mr Shapps fod y byd yn “rhedeg allan o amynedd” gyda gweithgareddau Tehran, gan alw am iddynt fod yn “gliriach gyda’i chynghreiriaid niferus” yn y Dwyrain Canol.

Dros nos, fe fomiodd yr Unol Daleithiau gyfleusterau milwrol a ddefnyddiwyd gan yr Houthis unwaith eto ar ôl ymgyrch fomio nos Iau, mewn ymateb i ymosodiadau ar longau yn y Môr Coch.

Mae’r Houthis, sy’n cefnogi Hamas, yn honni eu bod yn targedu llongau sy’n gysylltiedig ag Israel yn un o lwybrau llongau prysuraf y byd.

Mynnodd y Prif Weinidog Rishi Sunak fod Prydain a’r Unol Daleithiau yn gweithredu “er mwyn hunan-amddiffyn” ac na fyddai cynghreiriaid yn oedi cyn sicrhau diogelwch llongau masnachol.

Ond rhybuddiodd rhai arbenigwyr fod yr ymgyrchoedd bomio;n cynyddu'r risg o wrthdaro ehangach yn y Dwyrain Canol, wrth i bobl ymgynnull y tu allan i lysgenhadaeth y DU yn Tehran i losgi baneri Prydain, yr Unol Daleithiau ac Israel.

Dywedodd Goruchaf Gyngor Gwleidyddol Houthis mewn datganiad fod “holl fuddiannau Americanaidd-Prydeinig wedi dod yn dargedau cyfreithlon i luoedd arfog Yemeni”.

Fe wnaethant alw’r ymosodiadau o'r awyr yn “ymddygiad ymosodol uniongyrchol yn erbyn Gweriniaeth Yemen” a galw’r DU a’r Unol Daleithiau yn “ymosodwyr”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.