Newyddion S4C

‘Pob rhan’ o’r broses geisio lloches yn ‘anoddach’ na’r disgwyl, medd ffoadur

ITV Cymru 13/01/2024
Cyngor Ffoaduriaid

Mae ffoadur o Syria sy’n byw yng Nghymru wedi dweud bod ‘pob rhan’ o’r broses geisio lloches yn "anoddach" na’r disgwyl.

Mae'r dyn, sydd am aros yn ddienw, wedi derbyn statws cyfreithiol yn ddiweddar ac mae nawr yn byw yng Nghaerdydd. 

Yn dilyn proses hir wnaeth gymryd bron i ddwy flynedd rhwng cyflwyno cais am loches a derbyn penderfyniad, dywedodd wrth ITV Cymru: “Fe wnaeth y Swyddfa Gartref anfon trwydded breswylio fiometrig at fy hen gyfreithiwr heb ddweud wrthyf - rhywbeth a oedd wir wedi fy’n nrysu”.

Cafodd 12 diwrnod i ddod o hyd i waith a llety: “Mae’r Swyddfa Gartref yn rhoi cyfnodau rhybudd gwahanol i bob person, rhai yn cael un wythnos, 10 diwrnod, 17 diwrnod. Maen nhw’n gwneud camgymeriad mawr.”

Aeth ymlaen i ddweud: “Dydy o ddim yn ddigon o amser i unrhyw un yn y wlad yma gael fflat, heb sôn am gael eich holl fywyd mewn lle.” 

Aros am benderfyniadau

Fe wnaeth ddisgrifio’r ddwy flynedd fel rhai ‘anodd’ gan fod rhaid aros am un penderfyniad i ddechrau ei fywyd yma, a bod ‘pob rhan’ o’r broses geisio lloches wedi bod yn ‘galetach’ na ddylai wedi bod. 

Ers hyn, mae mewn gwaith llawn amser ac yn byw mewn llety yng Nghaerdydd.

Dywedodd Gareth Lynn Montes, Arweinydd Polisi ac Ymchwil Tai i Gyngor Ffoaduriaid Cymru (CFfC), fod y trefniadau sydd mewn lle gan y Swyddfa Gartref yn ei gwneud hi’n "anodd" i ffoaduriaid sydd newydd gael eu derbyn i’r wlad ddod o hyd i lety a gwaith o fewn y terfyn amser.

Yn ôl llefarydd dros y Swyddfa Gartref, unwaith mae ffoadur sydd newydd gael ei gydnabod yn derbyn trwydded breswylio fiometrig (BRP) - yr hawl i fyw a gweithio yn y DU - mae ganddyn nhw 28 diwrnod i symud allan o lety lloches.

Wrth drafod problemau gyda BRP, dywedodd Mr Montes: “Os oes unrhyw broblem efo amodau’r drwydded, mae’r 28 diwrnod yn aml yn gallu bod yn fyrrach ac yn gallu arwain at ffoadur yn dod yn ddi-gartref”.

Ôl-groniad

Mae’r Swyddfa Gartref wedi cyhoeddi yn ddiweddar bod 112,138 o benderfyniadau ceisio lloches wedi cael eu gwneud yn 2023, sef cynnydd o 253% ar y flwyddyn blaenorol.

Dywedodd Mr. Montes fod mynd i’r afael ag ôl-groniad ar raddfa uchel yn achosi problemau 'esbonyddol' i elusennau ac awdurdodau lleol. Mae nifer y bobl sydd yn cael eu cefnogi gan CFfC yn bedair gwaith yn fwy nag oedd ym mis Ebrill 2023.

Dywedodd llefarydd dros Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) ei bod yn “rhannu’r pryderon sydd wedi’u mynegi yn ddiweddar gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol ynglŷn â chyflymder a graddfa’r penderfyniadau sydd yn cael eu gwneud gan y Swyddfa Gartref ynghylch ceisiadau lloches.

Ychwanegodd fod “unrhyw deulu sydd mewn perygl o fod yn ddi-gartref yng Nghymru yn cael eu trin drwy’r polisïau arferol gan awdurdodau lleol ar ddigartrefedd”

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: “Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i reoli effaith penderfyniadau ceisio lloches wrth i'r ôl-groniad etifeddol leihau.”

Galw am welliant

Dywedodd Mr Montes ei fod yn hapus i weld dadfeddiannau yn cael eu gwahardd gan y Swyddfa Gartref dros y Nadolig.

Galwodd hefyd ar Lywodraeth y DU i wella ei phrosesau: “Mae angen trefn lle rydym yn trin pobl ag urddas a pharch ac un sydd ddim yn rhoi ceiswyr lloches mewn llety dros dro ar gychod.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym wedi galw ar Lywodraeth y DU dro ar ôl tro i ymestyn yr amser ‘symud ymlaen’ i o leiaf 56 diwrnod i atal y risg o ddigartrefedd i bobl sydd wedi gorfod ffoi o wledydd mewn argyfwng.

“Bydd y newid hwn yn hybu ein huchelgais o fod yn genedl noddfa drwy roi cefnogaeth gyfartal i ffoaduriaid.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.