Newyddion S4C

Cyn-actores Emmerdale wedi profi 'heriau meddyliol' ar ôl dod yn enwog

13/01/2024
Sian Reese-Williams

Mae cyn-actores Emmerdale, Sian Reese-Williams, wedi dweud iddi gael amser caled ar ôl i bobl anghofio taw “person” oedd hi yn ystod ei chyfnod ar y gyfres boblogaidd.

Mewn cyfweliad ar gyfer cyfres newydd S4C, Taith Bywyd, dywedodd yr actores bod ymdopi â’r holl sylw yn “strygl” iddi, a hynny wedi effeithio ar ei hunanhyder hefyd. 

Roedd rhaid iddi ddelio â nifer o sylwadau “personol,” meddai, ac mae hynny’n dal i’w heffeithio hi’n feddyliol heddiw. 

“Pan wyt ti mewn opera sebon, mae ryw fath o ownership, achos mae pobl yn gweld ti pob nos,” meddai. 

“Ti yn eu hystafell fyw nhw pob nos, ac mae pobl yn anghofio bod ti’n berson weithiau, ac mae’r pethau mae pobl yn teimlo maen nhw’n gallu gweud wrtha ti bach yn rhy bersonol.

“Ac mae lot o bobl ddim yn neis iawn, ddim yn garedig, ac mae hwnna yn gallu bod yn tricky.”

'Llais negyddol'

Roedd yr actores, sy’n bellach yn adnabyddus am ei rôl yn ddrama S4C, Craith, a gafodd ei thrawsieithu i’r Saesneg i’r gyfres Hidden ar gyfer y BBC, yn rhan greiddiol o gast Emmerdale rhwng 2008 a 2013 yn ei rôl fel Gennie Walker. 

Fe wnaeth hi ymddangos mewn dros 700 o benodau, ac yn 2012 roedd oddeutu 8.8 miliwn o bobl wedi gwylio’r actores mewn pennod arbennig gyfres sebon ITV gafodd ei darlledu’n fyw.

Ond roedd sylwadau negyddol a phersonol wedi cyfrannu at ddiffyg hyder yr actores, ac mae’n parhau i frwydro gyda’r effeithiau hynny.

“Roedd y pethau roedd pobl yn dweud amdani fel ‘unlucky in love’, ‘ugly duckling’... Pan wyt ti’n clywed hwnna pob dydd am bum mlynedd, i fi, gath hwnna effaith ar hyder fi am sbel a gymerodd e eitha’ lot o amser i dynnu’n hunain mas o hwnna. 

“A dal nawr, weithiau mae’r llais negyddol yn pen fi, fi’n gwbod bod e’n dod o’r cyfnod yna.”

Er gwaethaf hynny, ychwanegodd Sian ei bod wedi cael amser “arbennig” ar yr opera sebon, ac fel rhan o gyfres newydd S4C mi fydd hi’n cwrdd â ffrind agos ac un o sêr mwyaf Emmerdale ar y pryd, Sammy Winward, oedd yn actio’r rhan Katie Sugden am 14 mlynedd. 

'Colled'

Hefyd yn rhan o’i thaith, bydd yr actores yn trafod ei theulu, gan gynnwys marwolaeth ei brawd Llyr. 

Bu farw Llyr yn 2019 wedi iddo dderbyn diagnosis o diwmor ar yr ymennydd yn 2005. 

Dywedodd Sian: “Ni’n siarad amdano fe drwy’r amser...Mae rhywbeth yn atgoffa fi o Llyr bron pob diwrnod.”

“Mae e’n anodd i neud ond lot o’r amser, a fi ddim yn dda iawn efo hyn, ond mae e yn rhywun sy’n dangos fel mae byw trwy rhywbeth caled – mae’n rhaid i ti gadw i fynd. 

“Ac mae e wedi dysgu hwnna i ni gyd,” meddai. 

Fe fydd pennod Taith Bywyd Sian Reese-Williams yn cael ei ddarlledu am 21:00 nos Sul ar S4C.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.