Newyddion S4C

Angen cyfnod o ‘sefydlogi’ ar S4C meddai'r Cadeirydd Rhodri Williams

11/01/2024
Rhodri Williams

Mae Cadeirydd S4C Rhodri Williams wedi dweud mai cyfnod o “sefydlogi” sydd ei angen ar S4C wedi i Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan awgrymu y dylid penodi cadeirydd newydd yn ei le.

Wrth ymddangos o flaen Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu a’r Gymraeg y Senedd dywedodd na fyddai camu o'r neilltu “yn gwneud unrhyw les i S4C”.

Dywedodd nad oedd wedi derbyn unrhyw awgrym gan staff S4C na chwmnïau cynhyrchu ei fod yn bryd penodi cadeirydd gwahanol.

Daeth galwad gan Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan i gadeirydd newydd gael ei benodi wedi i Rhodri Williams roi tystiolaeth iddyn nhw ddydd Mercher.

Roedd y llythyr gan gadeirydd y pwyllgor, Stephen Crabb AS yn dweud eu bod nhw’n “awgrymu penodi Cadeirydd newydd i sicrhau'r newid yma."

Anfonwyd y llythyr at Ysgrifennydd Diwylliant Ceidwadol San Steffan, Lucy Frazer, sy’n gyfrifol am benodi cadeiryddion S4C.

Wrth i Rhodri Williams ymddangos o flaen y Senedd ddydd Iau, fe ofynnodd un o aelodau’r pwyllgor Alun Davies a oedd wedi ystyried ei safle.

“Pan da chi’n son am ddioddefaint aelodau staff S4C, ti oedd yn rhan o’r arweinyddiaeth wnaeth achosi hynny,” meddai.

“Oeddech ch’n dweud gynne, the buck stops. Da chi ddim yn teimlo fod gennych chi gyfrifoldeb i ystyried hyn yn bellach?”

Ond dywedodd Rhodri Williams bod ei bwyslais i gyd drwy’r holl broses ar les y staff.

“Does dim gair wedi dod ata i bod unrhyw aelod o staff presennol S4C yn meddwl y byddai fe o les i S4C pe bawn i’n ymddiswyddo heddiw,” meddai.

“Does dim un o’r cwmnioedd cynhyrchu ydw i wedi ymwneud a nhw neu wedi trafod efo nhw yn ystod y cyfnod yma wedi awgrymu y byddai fo’n llesol.

“A dweud y gwir mae’r neges yn glir iawn mae’r hyn maen nhw’n dymuno ei weld yn digwydd ydi cyfnod o sefydlogi.

“A gadael i’r broses o wella sydd ar waith yn barod fel nes i’n glir. O fewn S4c mae’r awyrgylch gwaith wedi gwella yn sylweddol.

“Yr hyn sydd ei angen yw sefydlogrwydd i adael i’r broses hynny barhau i weithio.”

‘Pryder’

Fe ychwanegodd Rhodri Williams mai dyna oedd y cyfnod anoddaf yn hanes S4C.

Roedd "llawer o niwed wedi cael ei wneud" i enw da S4C, meddai.

Ond dywedodd nad oedd yn ymwybodol o unrhyw gwynion difrifol yn erbyn arweinyddiaeth S4C nes i’r bwrdd dderbyn llythyr gan undeb BECTU.

"Dwi'n rhwystredig ein bod ni ddim wedi deall yn gynt beth oedd dyfnder y problemau,” meddai, “a'r pryder oedd gan aelodau staff, ond ar y llaw arall doedd 'na ddim tystiolaeth.

"Fe gawson ni rywfaint o dystiolaeth wrth gyfarfod yng Nghaernarfon ym mis Ionawr 2023 fod anesmwythyd - fydden i'n disgrifio fe.

“Ond fy nehongliad i oedd bod staff S4C yng Nghaernarfon yn arbennig yn ystyried eu bod yn cael eu diystyru braidd, eu bod nhw allan ohoni.

"Nid y fath o gyhuddiadau difrifol oedd yn cael eu codi gan BECTU maes o law."

Diswyddo

Collodd y Prif Weithredwr Sian Doyle ei swydd cyn i'r adroddiad gan gwmni cyfreithiol Capital Law gael ei gyhoeddi fis Rhagfyr. 

Dywedodd Ms Doyle nad oedd hi'n "cydnabod na derbyn" yr honiadau a wnaed yn yr adroddiad, gan alw ar Lywodraeth y DU i ymchwilio i arweinyddiaeth S4C.

Yn fuan iawn wedi hynny, cyhoeddodd gŵr Ms Doyle ei bod hi wedi cael triniaeth mewn ysbyty ar ôl cymryd gorddos. 

Fis Hydref, cafodd Llinos Griffin-Williams ei diswyddo fel prif swyddog cynnwys y sianel wedi honiadau o "gamymddwyn difrifol" mewn bariau yn Ffrainc yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd.

Yn ddiweddarach tarodd Ms Griffin Williams yn ôl yn erbyn cadeirydd y sianel, gan ddweud iddi gael ei diswyddo yn "annheg" ac iddi hi ddioddef "ymddygiad anaddas" yn ei herbyn.

Mae Rhodri Williams wedi ei gyhuddo o ymddwyn yn amhriodol drwy weiddi ar Ms Griffin-Williams, ac mae'n debyg iddo ymddiheuro am wneud hynny yn dilyn ymchwiliad mewnol.

Yn y cyfamser, mae llefarydd y blaid Lafur ar Gymru, Jo Stevens, a'r llefarydd ar ddiwylliant, Thangam Debbonaire, wedi ysgrifennu llythyr at Ysgrifennydd Diwylliant Ceidwadol San Steffan , Lucy Frazer yn nodi bod ganddyn nhw "bryderon am lywodraethiant, arweinyddiaeth a diwylliant sefydliadol S4C".

Maen nhw'n cyhuddo Ms Frazer o wneud dim i fynd i'r afael â'r sefyllfa yn S4C. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.