Newyddion S4C

Y Cymro sy'n cadeirio'r ymchwiliad cyhoeddus i fethiannau system Horizon Swyddfa'r Post

11/01/2024
Wyn Williams

Wedi'r cyhoeddiad ddydd Mercher y bydd cannoedd o gyn-is bostfeistri yn gweld eu heuogfarnau'n cael eu gwrthdroi, fe fydd yr ymchwiliad cyhoeddus i fethiannau system Horizon Swyddfa'r Post yn ail-ddechrau ddydd Iau. 

Cymro o'r Rhondda sy'n cadeirio'r ymchwiliad cyhoeddus, sef y Barnwr Syr Wyn Williams. 

Gyda mwy na 28 mlynedd o brofiad barnwrol, mae dyletswyddau Syr Williams yn cynnwys sicrhau fod yna grynodeb cyhoeddus o'r methiannau yn ymwneud â system dechnoleg Horizon a arweiniodd at erlyniad ac euogfarnau cannoedd o is-bostfeistri. 

Wedi ei eni yn Nglynrhedynog yn Rhondda Cynon Taf ym 1951, aeth ymlaen i astudio yn Rhydychen cyn mynd ymlaen i Lundain. 

Cafodd Syr Williams ei benodi yn Gofiadur yn Llys y Goron ym 1992 ac yn Ddirprwy Farnwr yn yr Uchel Lys ym 1999. 

Cafodd ei benodi i'r Uchel Lys ym mis Ionawr 2007 gan gael ei awdurdodi i eistedd ar unwaith yn y Llys Gweinyddol. 

Rhwng 1 Ionawr 2012 a Rhagfyr 2015, roedd yn farnwr gweinyddol dros Gymru.

Er ei fod wedi ymddeol fel barnwr llawn amser, mae Syr Williams wedi cael ei awdurdodi gan yr Arglwydd Brif Ustus i wasanaethu yn y Llys Apêl a'r Uchel Lys. 

Derbyniodd gymrodoriaeth gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2013 i gydnabod ei wasanaeth i’r gyfraith yng Nghymru.

Mae'n chwarae rhan mewn sawl sefydliad, gan gynnwys fel Llywydd Côr Meibion Pendyrus ac mae ganddo gysylltiadau agos gyda chlwb rygbi Tylorstown wedi iddo chwarae iddynt pan yn iau. 

Cafodd ei benodi fel cadeirydd annibynnol Bwrdd y Gêm Rhanbarthol Broffesiynol yn 2012, sef sefydliad a gafodd ei greu gan Undeb Rygbi Cymru er mwyn ailstrwythuo'r gamp yn y wlad. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.