Dros 150 o bobl yn dod i gyfarfod cyhoeddus ym Metws-y-coed i drafod dyfodol y feddygfa leol
Dros 150 o bobl yn dod i gyfarfod cyhoeddus ym Metws-y-coed i drafod dyfodol y feddygfa leol
Ardal wledig ond prysur hefyd.
Ychydig gannoedd o bobl sy'n byw ym Metws-y-coed ei hun ond mae o'n medru gwasanaethu cymunedau o Ddolwyddelan i Gerrigydrudion, Capel Curig i Drefriw.
Yn yr haf, yn arbennig mae'r boblogaeth yn chwyddo i'r miloedd gydag ymwelwyr.
Dyna pam fod llawer yn teimlo bod angen meddygfa yma ond does dim sicrwydd o hynny ar ôl mis Ebrill.
Mae 'na dair meddyg, dwy nyrs, gweithwyr cymunedol staff fferyllol a gweinyddol yn gweithio o'r feddygfa hon ond mae'r bartneriaeth yn dod a'u cytundeb efo'r Gwasanaeth Iechyd i ben fis Ebrill.
Dw i'n poeni amdano fo. Dw i'n licio'r ffaith bod 'na bobl dw i'n nabod yna ar hyn o bryd. Maen nhw'n rili da efo ni. Maen nhw'n rili ffeind.
Poeni pwy sy'n mynd i fod yna nesa. Ydy o'n mynd i fod yn rhywun dros amser neu jyst rhywun ti'n gweld unwaith a byth yn gweld eto?
Ddylsan nhw'm cau o neu fydd hi'n brysurach yn Llanrwst. Fydd o jyst yn dw i'm yn gwybod - gwaeth i'r doctors. Gorfod delio efo mwy o bobl.
Mae'r feddygfa agosaf bedair milltir i ffwrdd yn Llanrwst. Cerrigydrudion ydy'r nesaf, 12 milltir i ffwrdd.
I'r oedrannus, rhai sy'n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus neu sy'n cael trafferth defnyddio adnoddau digidol mae colli gwasanaeth lleol yn fwy o ergyd.
Mae nifer yn teimlo bod angen gwasanaeth ym Metws-y-Coed. Naill ai mae angen dod o hyd i gontractwr arall fydd yn barod i gymryd y feddygfa.
Dyna fysa'r dewis cyntaf.
Yr ail ddewis ydy bod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn camu mewn yn sefyll yn y bwlch a'n dod a'r feddygfa o dan eu hadain nhw fel y maen nhw wedi gwneud mewn ardaloedd eraill.
Yr hyn 'dan ni'n gobeithio ei glywed yn y cyfarfod heno yw bod yr opsiynau hynny yn cael eu datblygu a gobeithio bod 'na gynnydd wedi digwydd yn y maes yna.
Mi gafodd y cyfarfod heno ei drefnu gan Llais Cymru sy'n cynrychioli cleifion ledled y wlad.
Fel pob ardal yng Nghymru, 'dan ni angen meddygfeydd.
Wrth gwrs, mewn ardal mor wledig 'dan ni ddim isio teithio mor bell ar gyfer cael y gwasanaeth 'dan ni angen.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn deud eu bod nhw wedi cysylltu efo'r cleifion i gyd.
Maen nhw'n deud nad oes angen i unrhyw un adael ac y bydd y gwasanaeth yn cael ei gynnal tra eu bod nhw'n penodi darparwyr newydd yn y feddygfa.