Merched y Wow: Menywod cryfa’ hanes Cymru yn ysbrydoli sioe newydd

Cabarela

Menywod cryfa hanes Cymru yw pwnc sioe newydd ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Cabarela sy’n cyflwyno’r sioe ‘Merched y Waw!’ a daeth y syniad am y sioe o weithdy creadigol cymunedol yn Wrecsam yr hydref diwethaf.

“Daeth yr Eisteddfod atom ni efo syniad – sioe gerdd am ferched cryf yn hanes Cymru, a’n hateb ni oedd ‘Ia plîs!’,” meddai un o’r criw, Elain Llwyd.

“Aethon ni ati fel disgyblion bach da i ymchwilio, a syrthio mewn cariad efo gymaint o ferched dylanwadol yn ein hanes, a datblygu ‘Merched y Waw!’. 

“Mae pob cân wedi’i chyfansoddi ganddon ni y tro yma – sy’n barsel bach o nerfau newydd i ni – ond fel pob profiad Cabarelaidd arall mi fydd ’na chwerthin, ambell winc, a sawl gwirionedd wedi’i daflu i mewn yno’n rhywle!”

Y flwyddyn yw 2026, ac mae Strumpan wedi llwyddo i ormesu holl ferched Cymru a’u caethiwo, gan eu gorfodi i argraffu posteri propaganda’r unben i’w gwasgaru dros Gymru. 

Does dim hawliau, dim gobaith a dim pleser – tan i Cabarela danio chwyldro gyda help ‘huns’ y gorffennol. 

Ond pwy yw’r ‘huns’? Does neb yn gwybod, ac mae Cabarela’n cadw’r manylion i gyd dan glo. 

‘Dim spoilers’

Sbardun y syniad oedd hanesydd lleol a nododd fod gwraig Owain Glyndŵr, Marred ferch Dafydd neu Margaret Hanmer, wedi’i geni ym mhentref Hanmer, sydd tua deg milltir o Faes yr Eisteddfod, yn 1370. 

Nid oes dim yn hysbys am fywyd cynnar Margaret, ond roedd yn blentyn i Syr David Hanmer, a oedd yn brif ustus y Fainc Frenhinol yn ystod teyrnasiad Edward III a’i wraig Angharad ferch Llywelyn Ddu, ac mae’n debyg iddi gael ei magu mewn cartref Cymreig. 

Dysgodd ei thad Owain Glyndŵr pan astudiodd Owain y gyfraith, ond nid yw’n hysbys pryd y priododd Marred ag Owain, er y credir bod eu priodas wedi digwydd ym 1383 yn eglwys Sant Chad yn Hanmer. 

Mae nifer y plant a aned ganddi, a dyddiadau eu geni, yr un mor ansicr. 

Mae’r bardd Iolo Goch yn canmol Marred a’i haelioni yn ei gerdd ‘Llys Owain Glyndŵr yn Sycharth’, un o dair cerdd a gyfansoddodd er anrhydedd i Owain. 

Ar ôl i’w cartrefi yn Sycharth a Glyndyfrdwy gael eu llosgi ym 1403, bu Marred a’i phlant yn byw, ymhlith lleoedd eraill, yng Nghastell Harlech. 

Wedi cwymp Harlech cafodd Marred ei charcharu yn Nhŵr Llundain am weddill ei hoes. 

Ond a fydd Marred ferch Dafydd yn un o ‘Ferched y Waw!’? 

“’Dan ni’n cîn i bobl ddarganfod hynny wrth ddod i weld y sioe, felly dim spoilers!” meddai Elain Llwyd.

“Yr unig beth dduda i ydi bod pob un yn dod ag elfen bwysig i gwffio gorthrwm, ac yn dod o wahanol gyfnodau dros y canrifoedd i ddysgu rhywbeth i ni heddiw.”

Ffurfiwyd Cabarela’n wreiddiol gan Lisa Angharad a’i chwiorydd, Gwenno Elan a Mari Gwenllian (sy’n canu gyda’i gilydd fel Sorela) ar gyfer sioe gabaret yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau yn 2015. 

Fe ail-adroddwyd y sioe, sy’n adnabyddus am dynnu coes ac sy’n ymhyfrydu yn y ffaith ei bod yn anaddas i blant a phobl ‘gul’, yn Eisteddfod Mynwy yn 2016. 

Bydd ‘Merched y Waw!’ i’w gweld yn y Cwt Cabaret yn y Babell Lên o nos Lun.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.