Newyddion S4C

Teyrngedau i’r newyddiadurwr Vaughan Hughes sydd wedi marw yn 76 oed

06/01/2024
Vaughan Hughes

Mae’r newyddiadurwr Vaughan Hughes wedi marw yn 76 oed.

Roedd nes diwedd ei oes yn gyd-olygydd ar y cylchgrawn Barn a chyn hynny roedd ganddo yrfa yn y byd darlledu.

Roedd yn un o ohebwyr y rhaglen newyddion Y Dydd ar HTV yn yr 1970au, cyn cyflwyno y rhaglen materion cyfoes Y Byd Yn Ei Le yn yr 1980au

Bu hefyd yn cyflwyno y rhaglen sgwrsio O Vaughan i Fynwy rhwng 1987 ac 1991. 

Aeth ymlaen i fod yn gyd-sylfaenydd y cwmni teledu Ffilmiau'r Bont.

Ganwyd ar Ynys Môn yn 1947 a chafodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Llangefni, ac fe dreuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd yn byw ar yr ynys.

Bu yn gynghorydd Plaid Cymru ar Gyngor Sir Ynys Môn rhwng 2012 a 2022, gan gynrychioli ward Llanbedrgoch (Lligwy bellach).

'Trysori'

Mewn neges dywedodd ei ferch yr Aelod o Senedd Cymru Heledd Fychan bod eu “calonnau wedi eu torri" fel teulu "o golli Dad a Taid”. 

“I nifer o bobl ledled Cymru, roedd o’n wyneb a llais cyfarwydd am ddegawdau, ac rydym yn eithriadol o falch o’r cyfraniad pwysig wnaeth o gydol ei oes.

Mae’r ffaith ei fod wedi parhau i weithio fel cyd-Olygydd ar gylchgrawn Barn hyd at y diwedd yn gysur mawr i ni heddiw, ac heb os, wedi bod yn gysur iddo yntau yn ei waeledd. 

“Byddwn yn ei golli’n aruthrol, ac yn trysori pob atgof sydd gennym ohono.”

Ychwanegodd Heledd Fychan bod y diwedd wedi dod yn "annisgwyl o sydyn gyda Dad dal i weithio ar y rhifyn nesaf o Barn ddoe ac yn mwydro gyda fi tan yn hwyr neithiwr". 

"Mi wna’i drysori’r ffaith mai ein geiriau olaf wrth i ni ffarwelio neithiwr oedd ein bod ni’n caru’n gilydd," meddai.

"Roedd yn Dad cariadus a chefnogol imi ar hyd fy mywyd, ac wedi gwirioni’n lân bod yn Daid i Twm. Mi wnawn ni ei golli’n aruthrol. 

"Bydd gymaint mwy i’w ddweud amdano eto, a byddaf yn rhannu manylion yr angladd unwaith byddant wedi eu cadarnhau, ond am rwan, diolch i bawb fu’n ffrind i Dad drwy ei fywyd.

"A diolch i Dad am bopeth."

Teyrngedau

Mewn datganiad dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth ei fod yn "anfon pob cydymdeimlad at deulu ac annwyliaid Vaughan Hughes wedi'r newyddion trist am ei farwolaeth yn gynharach heddiw". 

"Rydan ni'n meddwl yn arbennig am ei ferch Heledd Fychan fel cyfaill ac aelod o grŵp y Blaid yn y Senedd," meddai.

“Mae Vaughan yn gadael gwaddol sylweddol. 

"Fel newyddiadurwr a darlledwr bu'n ddylanwadol ym myd materion cyfoes Cymreig am ddegawdau, a fel Cynghorydd Plaid Cymru ym Môn defnyddiodd ei brofiad helaeth ar lwyfanau cenedlaethol er budd ei fro a Chymru. 

"Bydd colled fawr ar ei ôl."

Dywedodd yr Eisteddfod Genedelaethol eu bod nhw'n "cofio am Vaughan Hughes ac yn diolch am ei gyfraniad fel aelod ffyddlon o bwyllgor llenyddiaeth Eisteddfod Rhondda Cynon Taf, gan anfon ein cydymdeimladau dwysaf at Angharad, Heledd, y teulu a’u ffrindiau yn ystod y cyfnod anodd hwn".

Dywedodd Dr Dyfrig Jones, uwch ddarlithydd ffilm ym Mhrifysgol Bangor ei fod yn "golled anferth".

"Eithriadol o drist o glywed hyn," meddai. "Fe weithiais yn agos efo Vaughan yn Ffilmiau’r Bont ac yn Barn, ac mi gafodd ddylanwad anferth arna’i. 

"Bos am gyfnod, ond cyfaill am lawer iawn hwy."

Dywedodd yr Aelod o Senedd Cymru, Sioned Williams ei fod yn "newyddion trist am un a gyfrannodd gymaint i’w genedl".

"Roedd Vaughan wastad mor gefnogol i fi fel un o gyfrannwyr Cylchgrawn Barn ac ro'n i’n mwynhau ein sgyrsiau difyr ar faes y Steddfod a chynhadleddau Plaid Cymru."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.