Arestio dyn wedi digwyddiad ar gae pêl-droed Amlwch
Mae'r heddlu wedi arestio dyn 43 oed mewn cysylltiad â digwyddiad ar gae pêl-droed yn Ynys Môn dros y penwythnos.
Fe gadarnhaodd yr heddlu ddydd Mercher eu bod yn ymchwilio i ymosodiad honedig ar lumanwr yn ystod gêm rhwng Amlwch a Phenrhyndeudraeth yng Nghynghrair Pêl-droed Arfordir Gogledd Cymru ddydd Sadwrn 27 Ebrill.
Mae'r heddlu wedi cadarnhau fod dyn bellach wedi cael ei arestio, a'i ryddhau ar fechnïaeth gan aros am ymchwiliadau pellach.
Dywedodd Ditectif Arolygydd Andrew Gibson: “Mae ein hymchwiliadau i’r digwyddiad yn parhau.
“Rydym yn cydlynu yn agos gyda Chymdeithas Pêl-droed Arfordir Gogledd Cymru ac yn annog pobl i beidio â rhannu tystiolaeth ar gamera sy’n cael ei ddosbarthu ar y cyfryngau cymdeithasol rhag iddo amharu ar unrhyw achos cyfreithiol.”