'The Voice' yn dod i S4C
Mae S4C wedi cyhoeddi fod y sianel yn mynd i fod yn darlledu fersiwn Gymraeg o’r gyfres deledu boblogaidd, The Voice.
Mi fydd ‘Y Llais’ yn cael ei ddarlledu yn 2025 ac yn cynnwys y canwr opera rhyngwladol Syr Bryn Terfel fel un o’r pedwar hyfforddwr o wahanol gefndiroedd cerddorol fydd yn eistedd yn y cadeiriau 'mwyaf eiconig ar y teledu'.
Fe fydd yna wyth pennod awr a hanner o hyd yn rhan o gyfres S4C.
Bydd y cystadleuwyr yn cymryd rhan mewn clyweliadau wrth i gantorion gorau’r genedl geisio creu argraff ar bedwar o artistiaid amlycaf Cymru.
Fe fydd y cystadleuwyr yn camu i’r llwyfan mewn ymgais i gael eu coroni yn enillydd y gyfres, gan sicrhau gwobr o gynllun mentora 12 mis o hyd sy’n cynnwys cyfle i berfformio ar raglenni S4C.
Bydd y rhaglen yn cael ei gyflwyno gan gyflwynydd BBC Radio 1, Sian Eleri.
Mae Syr Bryn Terfel wedi bod yn perfformio mewn tai opera a llwyfannau ar draws y byd dros y tri degawd diwethaf.
Enillodd wobrau yn y Grammys, y Classical Brit Awards a gwobr Gramophone, yn ogystal â pherfformio yn seremoni Coroni’r Brenin fis Mai llynedd.
Dywedodd Syr Bryn: "Mae’n wych bod Gwlad y Gân yn cael fersiwn arbennig ei hun o’r gyfres The Voice – pa ffordd well o ddarganfod y seren fawr nesaf?
"Dyma'r cyfle perffaith i wireddu eich breuddwyd, i berfformio ar S4C, ac i fod yn rhan o'r gyfres mwyaf cyffrous ar y teledu."
'Denu cynulleidfa amrywiol'
Dywedodd Geraint Evans, Prif Swyddog Cynnwys Dros Dro S4C: “Ry’ ni’n falch iawn i fedru dod â fformat sydd mor llwyddiannus yn fyd eang i Gymru. Wrth i ni anelu i ddenu cynulleidfa amrywiol, bydd Y Llais yn dipyn o sioe fydd yn apelio yn eang.
“Bydd y driniaeth yn Gymreig ac yn Gymraeg iawn, gydag un o gantorion opera mwyaf llwyddiannus y byd, Syr Bryn Terfel yn eistedd yn un o’r cadeiriau coch adnabyddus, ac enwau cyffrous o’r byd canu cyfoes Cymraeg i ddilyn.
“Fel cenedl rydyn ni wedi cynhyrchu rhai o leisiau gorau’r byd, ac ry’ ni’n mawr obeithio y bydd y gyfres hon yn dod o hyd i’r llais mawr nesa o Gymru.
Bydd clyweliadau cychwynnol yn digwydd ar Orffennaf 12fed yng ngogledd Cymru ac ar Orffennaf 15fed yn ne Cymru.