Teyrnged i ddynes ar ôl dod o hyd i’w chorff ar draeth
Mae teulu dynes wedi rhoi teyrnged iddi ar ôl i'w chorff gael ei ddarganfod ar draeth yn Sir Benfro.
Cafodd corff Sian Batchelor, 32 oed, ei ddarganfod ger Pennar, Doc Penfro brynhawn dydd Mawrth.
“Rydym wedi ein syfrdanu gan ein colled,” meddai ei theulu.
“Roedd Sian yn berson hardd, doniol, cariadus. Byddwn yn trysori'r amseroedd da a gawson ni gyda hi.
“Hoffem nawr gael amser i alaru a gofynnwn am gael preifatrwydd i wneud hynny.”
Mae’r heddlu yn ymchwilio i amgylchiadau marwolaeth Sian.
Hoffai’r heddlu glywed gan unrhyw un sydd â gwybodaeth, neu oedd wedi gweld Sian neu gael cyswllt gyda Sian, rhwng dydd Iau 25 a dydd Mawrth 30 Ebrill.
Dylai unrhyw un sy’n cysylltu ddyfynnu cyfeirnod DP-20240430-284.