Perchennog Y Seintiau Newydd Mike Harris yn cael ei gyhuddo o yrru negeseuon sarhaus ar-lein
Mae perchennog Y Seintiau Newydd, Mike Harris wedi cael ei gyhuddo gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru o dorri rheolau disgyblaeth ar ôl iddo anfon negeseuon ar-lein.
Roedd y negeseuon yn cynnwys fideo o gefnogwyr pêl-droed benywaidd yn hanner noeth.
Dywedodd Mr Harris, ar ôl cyhoeddi'r fideo ar ei gyfrif X ddydd Mawrth ei fod yn "sori iawn" am gyhoeddi'r fideo gan ychwanegu fod ei "olwg yn gwaethygu ac roeddwn wedi atodi'r ffeil anghywir."
Nos Fercher roedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) wedi cyhoeddi datganiad oedd yn dweud bod Mr Harris wedi cael ei gyhuddo o dorri rheolau disgyblaeth.
Cafodd ei gyhuddo o "gyhoeddi deunydd anaddas neu sarhaus, sydd yn ymddygiad sy'n debygol o ddwyn anfri ar gêm bêl-droed y Gymdeithas, neu Gymdeithas Bêl-droed Cymru."
Mae CBDC hefyd yn honni bod y cynnwys a gafodd ei gyhoeddi gan Mike Harris wedi "sarhau urddas person neu grŵp o bobl, yn uniongyrchol nue'n anuniongyrchol drwy gyhoeddi cynnwys y gellir ei ystyried yn ddirmygus, yn wahaniaethol neu'n ddiraddiol.
Mae gan Mr Harris saith diwrnod i ymateb i'r cyhuddiadau.
Mae Mike Harris wedi bod yn gadeirydd ar y clwb ers 2003.
Ef hefyd oedd sylfaenydd Total Network Solutions (TNS), a gafodd ei brynu gan British Telecom yn 2005.
Fe gafodd rhaglen ddogfen ei ryddhau ym mis Rhagfyr 2025 yn dilyn Mike Harris yn ystod tymor 2024/25 a'u taith ddramatig i gymhwyso i Gynghrair Cyngres UEFA.