Gweinidogion Cymru i benderfynu ar ddyfodol cynllun radar dadleuol yn Sir Benfro
Mae Llywodraeth Cymru wedi galw cais cynllunio ar gyfer gorsaf radar ddadleuol yn Sir Benfro i mewn, gan olygu mai Gweinidogion Cymru fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol.
Fe gyhoeddodd y Weinyddiaeth Amddiffyn yn 2024 y byddai Barics Cawdor ger Tyddewi yn Sir Benfro yn gartref i gynllun DARC (Deep Space Advanced Radar Capability).
Bwriad y Weinyddiaeth Amddiffyn yw codi 27 o ddysglau radar ar y safle, ond mae’r cynlluniau wedi wynebu gwrthwynebiad chwyrn yn lleol.
Mae DARC yn rhan o raglen ryngwladol i ddatblygu rhwydwaith o safleoedd radar yn y Deyrnas Unedig, yr Unol Daleithiau ac Awstralia, gyda’r nod o wella’r gallu i olrhain gwrthrychau yn y gofod a chefnogi ymdrechion diogelwch.
O dan y cynlluniau, bydd safle Barics Cawdor, a oedd i fod i gau erbyn 2028, yn cael ei adnewyddu i wneud lle i’r orsaf radar.
Mae penderfyniad y Gweinidog Llywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Siân Gwenllian AS, i alw’r cais i mewn yn golygu na fydd pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Penfro yn ystyried y cais yr wythnos nesaf fel yr oedd wedi'i drefnu.
Yn ôl llythyr y Gweinidog at y cyngor, mae'r cynnig yn “codi materion diogelwch cenedlaethol oherwydd natur amddiffynnol strategol y datblygiad ac sy’n cyflwyno mater cynllunio newydd”.
“Mae'r cynnig o bosib yn gwrthdaro â pholisi cenedlaethol o ran tirwedd, ecoleg, cynaliadwyedd a chreu lleoedd,” meddai yn y llythyr.
“Gallai penderfyniad ar y cynnig fod yn ddadleuol y tu hwnt i'r ardal leol uniongyrchol, ac mae cryn ddiddordeb cyhoeddus yn y cynnig eisoes.
“Mae'r holl faterion hyn yn arwain y Gweinidog Cabinet i'r casgliad bod y datblygiad o bwysigrwydd sy'n mynd y tu hwnt i lefel leol, ac mai Gweinidogion Cymru y dylai wneud penderfyniad am y cais.”
‘Cam sylweddol’
Mae'r grŵp ymgyrchu PARC, sy'n gwrthwynebu'r cynllun, wedi croesawu'r penderfyniad, gan ei ddisgrifio fel “cam sylweddol”.
“Mae Siân Gwenllian wedi gwneud y penderfyniad cywir yma, ac mae DARC ymhell o fod yn brosiect seilwaith arferol,” meddai llefarydd ar ran y grŵp.
“Mae ei gwmpas a’i oblygiadau cenedlaethol a rhyngwladol yn golygu ei fod yn codi materion sy’n mynd ymhell y tu hwnt i’r broses gynllunio leol, gan olygu bod angen eu hystyried ar lefel Llywodraeth Cymru.”
Yn ôl PARC, cafodd dros 1,100 o wrthwynebiadau eu cyflwyno yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus, gyda dim ond un ymateb o blaid y cynllun.
Mae bron i 20,000 o bobl hefyd wedi llofnodi deiseb yn erbyn y datblygiad, yn ôl y grŵp.
Bydd penderfyniad terfynol ar y cais bellach yn cael ei wneud gan Weinidogion Cymru.
Mewn ymateb, dywedodd Cyngor Sir Penfro eu bod wedi derbyn hysbysiad gan Lywodraeth Cymru ddydd Mawrth eu bod yn bwriadu galw'r cais i mewn.
“Mae'r cais bellach wedi'i drosglwyddo i Weinidogion Cymru er mwyn iddynt wneud penderfyniad, ac ni fydd yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Cynllunio'r Cyngor yn ei gyfarfod ar 28 Gorffennaf 2026,” meddai llefarydd ar ran y cyngor.
“Mae'r Cyngor bellach yn aros am gadarnhad gan Weinidogion Cymru ynghylch y weithdrefn a'r amserlen ar gyfer ystyried y cais.
“Byddwn yn darparu rhagor o wybodaeth unwaith y bydd y Cyngor wedi cael gwybod yn ffurfiol am y camau nesaf yn y broses gwneud penderfyniadau.”
Prif lun: Argraff artist o'r safle dan sylw - llun Y Weinyddiaeth Amddiffyn