Teyrnged teulu i ‘fam annwyl’ a fu farw mewn gwrthdrawiad

Jacqueline Davies

Mae teulu wedi rhoi teyrnged i “fam annwyl” a fu farw mewn gwrthdrawiad yng Nghwmbrân.

Mae’r heddlu yn apelio am lygaid dystion i’r gwrthdrawiad ar Bryn Milwr, Hollybush, Cwmbrân tua 15:10 ddydd Llun 6 Gorffennaf.

Aeth swyddogion i’r safle ynghyd â pharafeddygon o Wasanaeth Ambiwlans Cymru.

Un car oedd yn y gwrthdrawiad, sef Ford Fiesta coch.

Fe aeth y gwasanaethau brys â menyw 75 oed o Gwmbrân, Jacqueline Davies, i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol a bu farw’r diwrnod canlynol.

Dywedodd ei theulu bod eu “torcalon y tu hwnt i eiriau ar ôl colli ein mam annwyl Jacqueline Davies, 75 oed, mor sydyn”. 

“Roedd yn fam gref, annibynnol, llawn bywyd nad oedd byth yn ofni dweud ei barn, a dyna oedd un o’r nifer o bethau roedden ni’n eu caru amdani.

"Roedd hi’n onest, yn benderfynol ac yn llawn cymeriad, ac roedd ganddi gryfder a oedd yn ysbrydoliaeth i’r bobl o’i chwmpas.

"Mae ein teulu wedi’i lethu gan dristwch a fydd bywyd byth yr un fath hebddi hi. Rydyn ni’n ceisio ymdopi gyda’r hyn sydd wedi digwydd ond rydyn ni hefyd yn daer eisiau gwybod beth ddigwyddodd."

Mae swyddogion sy’n ymchwilio i’r gwrthdrawiad eisiau siarad ag unrhyw fodurwyr a oedd yn teithio yn ardal Bryn Milwr, Hollybush a allai fod wedi gweld y cerbyd neu’r gwrthdaro rhwng 10:00 a 10.30 ddydd Llun 6 Gorffennaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.