‘Dan ni ddim yn gallu cael y neges drosto’: Pryder am nifer y damweiniau ar ffermydd

‘Dan ni ddim yn gallu cael y neges drosto’: Pryder am nifer y damweiniau ar ffermydd

Mae’r cyflwynydd Alun Elidyr, sy’n Llysgennad gyda'r Partneriaeth Diogelwch Fferm, wedi dweud bod y diwydiant yn dal i fethu â chyfleu’r neges am ddiogelwch.

Daw hyn ar ôl i 22 o weithwyr fferm golli eu bywydau mewn damweiniau ym Mhrydain yn ystod 2025/26.

Mae ffigurau newydd gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn dangos mai amaethyddiaeth yw’r diwydiant sydd â’r gyfradd uchaf o farwolaethau cysylltiedig â gwaith.

Mewn cyfweliad â Newyddion S4C yn Sioe Frenhinol Cymru, dywedodd Alun Elidyr: “Mae’r ffigwr yna o 22 yn siom enfawr i ni yn y Bartneriaeth Diogelwch Fferm achos ’dan ni wedi bod yn datblygu ymgyrchoedd dros y blynyddoedd.

“’Dan ni wedi cael mwy o gyllid gan Lywodraeth Cymru, mae gennon ni ymgyrchoedd gwahanol yn dechrau gyda phlant ifanc yn yr ysgolion cynradd rŵan.

“Ac eto, ’dan ni dal ddim yn gallu cael y neges drosto.”

Dywedodd mai ffermwyr eu hunain ddylai gymryd cyfrifoldeb am ddiogelwch y diwydiant.

“Ni fel ffermwyr ddylia fod yn gyfrifol am ein diwydiant ein hunain, am ei berfformiad o, am y ffordd mae o’n cael ei weld gan y cyhoedd ac gan Llywodraeth,” meddai.

Plant a gweithwyr hŷn

Mae data cychwynnol ar gyfer 2025/26 yn dangos bod cyfanswm o 29 o bobl wedi marw yn y sector amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota.

Roedd hynny’n cynnwys 22 o weithwyr a saith aelod o’r cyhoedd, tri ohonynt yn blant.

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae naw o blant wedi colli eu bywydau ar ffermydd ym Mhrydain.

Dywedodd arolygydd amaethyddiaeth yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, Wayne Owen: “Mae’r golled barhaus o fywyd, yn enwedig marwolaethau naw o blant ar ffermydd Prydain dros y pum mlynedd diwethaf, yn drasig ac yn annerbyniol.

“Nid yw’r rhain yn ddamweiniau anochel; mae llawer ohonynt yn deillio o risgiau y mae modd eu rheoli.”

Dywedodd yr awdurdod hefyd fod dros hanner y gweithwyr a fuodd farw dros 65 oed.

Mae cerbydau, gwrthrychau sy’n disgyn, cwympo o uchder a pheiriannau yn parhau i fod ymhlith prif achosion marwolaethau ar ffermydd.

‘Mi allwch chi achub bywyd’

Dywedodd Alun Elidyr ei fod yn credu mai'r ffermwyr eu hunain ddylai fod yn gyfrifol am y diwydiant.

"Ac eto, 'dan ni dal ddim yn gallu cael y neges drosto. A mae fyny i ni, dw i'n meddwl, dyna dw i isio dweud yn fwy nag dim. Ni fel ffermwyr ddylia fod yn gyfrifol am ein diwydiant ein hunain, am ei berfformiad o, am y ffordd mae o'n cael ei weld gan y cyhoedd ac gan Llywodraeth," meddai.

"Achos os ydy Llywodraeth yn gweld ni yn perfformio'n wael o ran diogelwch, maen nhw'n mynd i ddeddfu yn ein herbyn ni. A 'dan ni ddim isio mwy o ddeddfau."

Ychwanegodd mai peidio â rhuthro a chynllunio’r gwaith ymlaen llaw yw rhai o’r camau pwysicaf y gall ffermwyr eu cymryd.

“Cymryd pwyll ydy’r peth cynta,” meddai.

“’Dan ni ar ruthr yn aml iawn a mae’n rhaid i ni cymryd pwyll.”

Rhybuddiodd hefyd fod angen bod yn fwy gofalus wrth ddefnyddio beiciau cwad.

“Mae’r beiciau yma yn beryg bywyd a mae’n rhaid, rhaid i ni wella’n record ar hynny,” meddai.

Dywedodd y gallai cymryd ychydig funudau i wirio offer achub bywyd.

“Dydy o ddim yn mynd i gymryd ond bum munud ynde a mi allwch chi achub bywyd,” meddai.

“Mae o’n mor syml â hynny.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.