Achos Gwynoro Jones: Cyn-AS yn ddieuog o ymosod yn rhywiol ar ddynes
Achos Gwynoro Jones: Cyn-AS yn ddieuog o ymosod yn rhywiol ar ddynes
Mae’r cyn-AS Llafur Gwynoro Jones wedi ei ddyfarnu'n ddieuog o ymosod yn rhywiol ar ddynes ar drên.
Fe ddaeth y rheithgor yn ôl gyda’u dyfarniad wedi awr o drafod.
Yn ystod yr achos, fe glywodd y llys honiad fod Gwynoro Jones, 83 oed, wedi ymosod yn rhywiol ar ddynes ar drên Great Western rhwng Llundain ac Abertawe.
Roedd Mr Jones yn cynrychioli etholaeth Caerfyrddin yn Senedd San Steffan rhwng 1970 a 1974.
Roedd y cyn-wleidydd yn gwadu’r cyhuddiad yn ei erbyn, ac yn dweud y gallai fod wedi ei chyffwrdd yn ddamweiniol.
Yn emosiynol wrth siarad â Newyddion S4C tu allan i'r llys, dywedodd Gwynoro Jones ei fod yn teimlo "rhyddhad ond yn flin".
"Chi’n mynd mewn i’r achos o’r math yma, lle mae cyhuddiadau un ochr a’r llall, pwy a ŵyr," meddai.
"Wrth gwrs bod fi’n hapus gyda’r canlyniad, ond ‘wi’n deall… wel dwi byth ‘di bod yn y sefyllfa yma o’r blaen.
“[Dwi’n teimlo] rhyddhad, ond yn flin.
“Pam mae pethau fel yma yn digwydd? Chi’n gwybod, [gofyn cwestiynau fel] sut ‘ych chi? Lle chi’n dod o? Le chi’n byw? Falch eich gweld chi, cyffwrdd â'ch braich.
“Ma’ hwnna’n gael ei gyfri y dyddie yma fel ymosodiad ar berson, dyw e ddim.
“Pam gallwn ni ddim cael cymdeithas agored? A dyna sydd ar goll chi’n gweld, ma’ hwnna wedi cael ei golli."
Cefndir yr achos
Ar ddiwrnod cyntaf yr achos ddydd Llun fe welodd y rheithgor ddau fideo ar wahân o gamerau cylch cyfyng lle’r oedd Mr Jones yn ymddangos fel petai wedi cyffwrdd â’r ddynes ar ei phen-ôl, a hefyd wedi ei chyffwrdd ar ei braich ar drên Great Western rhwng Llundain ac Abertawe.
Clywodd y llys fod Mr Jones yn eistedd wrth ddrws coets dosbarth cyntaf ar y trên gyda dwy botel fach o win a brynodd ar y trên, pan gerddodd y ddynes heibio.
Roedd y sgwrs gyntaf rhwng y ddau ar y trên "heb unrhyw broblem" meddai Georgia Donohue ar ran yr erlyniad.
Mewn digwyddiad yn ddiweddarach a gafodd ei recordio gan gamera cylch cyfyng, roedd y cyn-AS yn gafael ym mraich y ddynes.
Dywedodd Miss Donohue, fod y ddynes yn “anghyfforddus” ar ôl y digwyddiad.
Dywedodd Mr Jones wrth gyflwyno ei dystiolaeth yn Gymraeg ei fod wedi gafael yn ei braich er mwyn cael gwared â “briwsion o sushi nes i brynu yn Paddington”.
Ychwanegodd fod y briwsion wedi glanio ar ei braich o’i geg tra’r oedd yn siarad â hi.
“Beth o’n i’n neud oedd cael gwared ar bwyd oddi ar ei braich hi," meddai.
Ychwanegodd ei fod wedi dechrau sgwrsio gyda hi a gofyn lle’r oedd hi’n byw.
“Mae’n draddodiad Cymreig, gorllewin Cymru, gofyn 'where are you from, what do you do, what's your life?”
Gwadodd ei fod wedi gofyn cwestiynau personol iddi gan gynnwys os oedd hi’n briod neu gyda chariad.
‘Camddigwyddiad llwyr’
Mewn ail ddigwyddiad, clywodd y llys i'r diffynnydd symud i eistedd mewn sedd arall yn y goets.
Roedd fideo o gamera cylch cyfyng yn dangos bod Mr Jones yn ymddangos fel petai wedi cyffwrdd â’r ddynes ar ei phen-ôl gyda'i law.
Dywedodd Miss Donohue ar ran yr erlyniad fod Mr Jones wedi gosod ei law allan yn fwriadol fel bod y ddynes yn cerdded yn ôl i mewn iddi.
Ychwanegodd fod y ddynes wedi sylweddoli bod ganddi glais bach ar ei phen-ôl ar ôl y digwyddiad.
Wrth ateb cwestiwn gan yr erlyniad am sut yr oedd hi'n teimlo ar ôl iddi ymddangos fod Gwynoro Jones wedi cyffwrdd ei phen ôl, dywedodd "roeddwn i wedi syfrdanu".
Honni wnaeth Gwynoro Jones mai “camddigwyddiad llwyr” oedd y cyffyrddiad ar ben-ôl y ddynes, a mai ei ffôn symudol wnaeth gyffwrdd â hi.
“Dim y’n llaw i gyffyrddodd y fenyw, ond y ffôn mobile, ond digwyddodd y peth mor gyflym," dywedodd.
“A ffôn symudol yn fy llaw i a hefyd tocyn, lle oedd y tocyn yn cael ei gadw ar gefn y ffôn.
“Fi’n credu syrthiodd y tocyn ond cornel y ffôn symudol cyffyrddodd y wraig.”
Ychwanegodd ei fod wedi ymddiheuro yn syth i’r ddynes.
“Ymddiheures i yn syth, deallais bod rhywbeth wedi digwydd ac fe droiais i a dweud sori, straight away.
“Wrth gwrs taw damwain oedd e.”