Yr heddlu'n ymchwilio i drosedd ryw honedig yn Rhuthun
Mae Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio i drosedd ryw ddifrifol honedig yn ystod oriau mân fore Llun yn ardal Heol y Parc a Chaeau Chwarae Coffa yn Rhuthun, Sir Ddinbych.
Mae dyn a dynes o Sir Gaerhirfryn wedi eu harestio a'u rhyddhau ar fechnïaeth, ar yr amod nad ydynt yn mynd i ogledd Cymru tra bod ymchwiliad yr heddlu yn parhau.
Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth ac yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai gynorthwyo eu hymchwiliad i gysylltu â'r llu drwy eu sgwrs we fyw ar-lein neu ar 101 gan ddyfynnu cyf 26000586732.