Rhyddhau tri dyn ar fechnïaeth wedi marwolaeth dyn 25 oed yn Llanelwedd
Mae tri dyn a gafodd eu harestio ar amheuaeth o droseddau yn ymwneud â chyffuriau yn dilyn marwolaeth dyn 25 oed yn Llanelwedd nos Sadwrn wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth amodol.
Bu farw Dewi Evans, 25 oed o Lanfihangel Glyn Myfyr, Corwen, mewn maes carafanau ger safle'r Sioe Fawr yn Llanelwedd nos Sadwrn.
Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i'r maes carafanau ar Fferm Penmaenau am tua 22:30 nos Sadwrn.
Er gwaethaf ymdrechion parafeddygon, bu farw Dewi Evans yn y fan a'r lle.
Fe gafodd tri dyn eu harestio ar amheuaeth o droseddau yn ymwneud â chyffuriau, ond fe ddywedodd yr heddlu ddydd Mawrth eu bod nhw bellach wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth amodol.
Mewn teyrnged iddo, dywedodd ei deulu: "Dewi Aeron Evans, mab, brawd ac ŵyr annwyl a hoffus; bydd yn golled enfawr i'r teulu a'r gymuned yn Uwchaled. Byddai'r teulu a'r gymuned yn gwerthfawrogi preifatrwydd ar yr amser anodd yma."