Andy Burnham ‘yn barod i wrando’ meddai Rhun ap Iorwerth cyn cyfarfod
Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud ei fod yn credu bod Andy Burnham “yn barod i wrando, efallai mewn ffordd nad oedd Keir Starmer”.
Mae disgwyl i Rhun ap Iorwerth a Phrif Weinidog newydd y DU gyfarfod ddydd Iau, wedi i’r ddau siarad dros y ffôn am y tro cyntaf ddydd Mawrth.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth wrth raglen Today BBC Radio 4 ei fod yn gobeithio gweithio’n adeiladol gyda’r Prif Weinidog newydd i fynd â datganoli yng Nghymru i’r “cam nesaf”.
Dywedodd y Prif Weinidog yn flaenorol na chafodd gyfarfod â’r cyn-Brif Weinidog, Syr Keir Starmer, oherwydd yr “anhrefn yn San Steffan”.
Daeth Plaid Cymru i rym yng Nghymru ym mis Mai ar ôl i ganlyniad etholiad hanesyddol weld y blaid yn disodli Llafur Cymru ar ôl mwy na dau ddegawd mewn grym.
Rhoddodd y canlyniad hwnnw yn ei dro ragor o bwysau ar Syr Keir i ymddiswyddo fel Prif Weinidog y DU.
Wrth siarad ar raglen Today fore Mercher, dywedodd Rhun ap Iorwerth: “Fe ges i sgwrs ag Andy Burnham ddoe a’i longyfarch ar ddod yn Brif Weinidog.
“Fe wnaethon ni’n dau ei gwneud yn glir ein bod ni eisiau perthynas gadarnhaol ac adeiladol.
“Rwy’n gwybod ei fod yn deall datganoli ym Manceinion. Rydw i eisiau ei helpu i ddeall beth mae datganoli yn ei olygu yng Nghymru a pha adnoddau sydd eu hangen arnon ni i wneud iddo weithio’n well.
“Mae gen i fandad i arwain llywodraeth a etholwyd ar sail addewid i ddatganoli pwerau dros blismona a chyfiawnder i Gymru, i ddatganoli pwerau a chyllid rheilffyrdd i Gymru, ac i gael yr hawl i reoli ein hadnoddau naturiol ein hunain.
“Felly mae yna restr, os liciwch chi, o bethau y mae angen eu datganoli nawr er mwyn mynd â hanes Cymru, a hanes datganoli, i’r lefel nesaf.
“Mae’n amlwg bod gennym ni Brif Weinidog nawr sy’n barod i wrando, efallai mewn ffordd nad oedd Keir Starmer, ac rwy’n awyddus i wneud popeth o fewn fy ngallu i gyflwyno’r achos dros Gymru.”
‘Edrych ymlaen’
Daw ei sylwadau ddiwrnod ar ôl i Mr Burnham ddweud wrth Mr ap Iorwerth ac arweinwyr yr Alban a Gogledd Iwerddon ei fod yn “canolbwyntio ar gamau ymarferol, nid newidiadau cyfansoddiadol fel rhagor o refferenda”.
Mae Mr ap Iorwerth wedi dweud yn flaenorol nad yw’n bwriadu cynnal refferendwm yn ystod tymor cyntaf llywodraeth Plaid Cymru.
Nos Lun fe wnaeth Rhif 10 Downing Street gyhoeddi mai Stephen Kinnock oedd yr Ysgrifennydd Cymru newydd, gan gymryd lle Jo Stevens yn y Cabinet.
Dywedodd Stephen Kinnock, AS Aberafan Maesteg, ei fod “yn hynod falch ac anrhydeddus o fod yn Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru”.
“Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth y DU a chydweithwyr a chymunedau ledled Cymru wrth i ni geisio sicrhau y gall pobl ein cenedl wych fanteisio ar y cyfleoedd sydd o'n blaenau,” meddai.