Newyddion S4C

Rhieni yn Ynys Môn yn ennill ymgyrch i sicrhau addysg Gymraeg

02/05/2024
Plant yn dathlu cael mynd i Ysgol Uwchradd Bodedern

Mae grŵp o rieni yn Ynys Môn fu'n ymgyrchu i sicrhau bod eu plant yn cael derbyn addysg cyfrwng Cymraeg yn eu dalgylch lleol wedi llwyddo i wneud hynny.

Dywedodd Elin Maher, cyfarwyddwr cenedlaethol Rhieni Dros Addysg Gymraeg, bod Cyngor Môn yn wreiddiol wedi gwrthod cynnig lle i 16 o blant o Ynys Cybi yn eu hysgol cyfrwng Cymraeg leol.

Roedd y plant, sydd ar hyn o bryd ym mlwyddyn chwech mewn ysgolion cynradd, wedi gwneud cais i fynd i Ysgol Uwchradd Bodedern ym mis Medi 2024.

Yn ôl y Cyngor, roedd gormod o blant wedi gwneud cais ar gyfer y lleoedd oedd ar gael, felly roedd proses apêl yn digwydd ar sail y "meini prawf gordanysgrifio".

Yn ôl Ms Maher, a oedd yn cynghori'r rhieni, "roedd y plant wedi cael eu cyfri' o dan y meini prawf gordanysgrifio anghywir".

“Fe gaethon nhw eu hystyried fel plant y tu allan i’r dalgylch lle'r oedd dogfennau’r sir yn nodi’n glir - yn ogystal â Chynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg - bod plant ardal Ynys Cybi yn dod o dan ddalgylch Ysgol Uwchradd Bodedern,” meddai.

Dywedodd nad oedd y cyngor wedi derbyn hynny, ac felly wedi mynd ati i ddechrau'r broses apêl.

Yn y cyfamser roedd nifer o'r plant wedi cael cynnig lle mewn ysgol cyfrwng Cymraeg y tu allan i'w dalgylch.

Ond yn dilyn ymgyrch lwyddiannus gan rieni, mae’r cyngor bellach wedi cynnig lle i’r 16 o blant yn Ysgol Uwchradd Bodedern ym mis Medi 2024.

‘Rhaid mynd â’r maen i’r wal’

Mae Ms Maher yn croesawu’r tro pedol ond yn galw ar Gyngor Sir Ynys Môn i adolygu’r broses gwneud cais ar gyfer ardal Ynys Cybi.

“Mae ‘na gwestiwn yn codi ar gyfer Medi 2025 oherwydd mae’r cyfnod ymgynghori ar unrhyw drefniadau mynediad wedi cau," meddai.

"Felly sut mae Ynys Môn yn mynd i sicrhau fod ‘na ddigon o gapasati ar gyfer twf flwyddyn nesaf? Achos o bosib fydd mwy o blant am dderbyn addysg Gymraeg o ardal Ynys Cybi yn ym mis Medi 2025."

Rhif mynediad Ysgol Uwchradd Bodedern yw 159, ond eleni roedd 195 o geisiadau i'r ysgol.

Ychwanegodd: “Felly mae’n rhaid nawr mynd â’r maen i’r wal i edrych yn fanwl ar sut mae’r trefniadau yn mynd i ddigwydd ar gyfer 2025 oherwydd dydyn ni ddim moyn bod yn y sefyllfa hon flwyddyn nesaf.”

Mae Ms Maher hefyd yn dymuno bod Cyngor Sir Ynys Môn yn "cyfaddef eu bod nhw wedi cyfri plant yn y meini prawf anghywir".

“Ni’n teimlo bod y sir wedi gadael y plant i lawr y flwyddyn yma wrth beidio â bod yn ddigon craff a digon tryloyw falle yn eu proses eleni, felly 'da ni’n gobeithio i'r tryloywder yna i ddychwelyd ar gyfer 2025 a bod rhieni yn gwbl glir o’u dewisiadau nhw'r flwyddyn nesaf," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ynys Môn: “Yn sgil gwybodaeth newydd, rydym wedi adolygu’r penderfyniad gwreiddiol ac wedi cynnig lle i bob un o’r 16 o blant fynychu Ysgol Bodedern o fis Medi 2024.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.