Newyddion S4C

Plentyn yn gwadu gwneud honiadau ffug yn erbyn y prifathro Neil Foden

02/05/2024

Plentyn yn gwadu gwneud honiadau ffug yn erbyn y prifathro Neil Foden

Mae plentyn wedi gwadu gwneud honiadau ffug yn erbyn prifathro sydd wedi ei gyhuddo o droseddau rhyw honedig yn erbyn plant.

Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Iau, dywedodd y plentyn fod Neil Foden wedi ei chyffwrdd mewn dull rywiol ar sawl achlysur.

Mae Mr Foden - oedd yn bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor, ac yn Bennaeth Strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes - yn gwadu 20 o gyhuddiadau sy'n ymwneud â throseddau rhyw yn erbyn pump o blant rhwng Ionawr 2019 a Medi 2023.

Cafodd fideo o gyfweliad y plentyn - sydd yn cael ei hadnabod fel Plentyn D - gyda'r heddlu ei chwarae i'r rheithgor.

Yn ystod y cyfweliad fideo, dywedodd Plentyn D fod Neil Foden wedi gofyn cwestiynau personol iawn iddi gan gynnwys ei holi am ei bywyd rhywiol.

"Roedd yn bod yn rhyfedd iawn," meddai.

"Nes i ddim o'i ateb - pwy sydd yn gofyn pethau fel yna?"

Dywedodd hefyd fod Neil Foden wedi dweud wrthi: "Mae gen ti gorff deniadol iawn. Fe fydd dynion drosta ti yn y dyfodol. Rwyt ti mor ddeniadol."

Dywedodd bod Mr Foden wedi ei chofleidio, gan rwbio ei hysgwyddau a'i chluniau.

"Fe roddodd ei freichiau tu ôl i mi a cheisio fy nghofleidio. Rhoddodd ei wefusau ar fy ngwddf ac fe wnes i geisio ei wthio i ffwrdd,” meddai.

"Roeddwn i'n flin. Fe rwbiodd i lawr cefn fy nghoesau a fy mhen ôl. Fe ddechreuodd roi ei ddwylo i fyny fy sgert, gan afael yn dynn yndda i. Mae'n llawer mwy na fi."

Ychwanegodd fod Mr Foden wedi cloi'r drws pan oedd y ddau yn yr un ystafell ar ben eu hunain, a'i fod wedi gofyn iddi "pa fath o bethau oeddwn i yn ei wneud yn y gwely gyda fy nghariad."

Dywedodd ei bod wedi gwrthod ei ateb gan gyfeirio at ei hoedran.

Tystiolaeth

Wrth roi tystiolaeth tu ôl i sgrin, fe wnaeth Plentyn D wadu mai celwydd oedd ei honiadau.

Awgrymodd bargyfreithiwr yr amddiffyniad, Duncan Bould wrth Blentyn D nad oedd yr hyn yr oedd yn ei honni erioed wedi digwydd.

"Nid yw'n gywir i ddweud bod Mr Foden wedi gofyn i chi am eich bywyd rhywiol."

"Do, fe wnaeth", meddai Plentyn D.

Awgrymodd Mr Bould mai ymdrech i hybu ei hunan-barch oedd ei sylwadau am ei hedrychiad corfforol.

"Dydw i ddim yn credu mai dyna'r ffordd i fynd o gwmpas hybu eich hunan-barch,” atebodd Plentyn D.

Gofynnodd Duncan Bould i Blentyn D pam nad oedd hi wedi datgelu gwybodaeth am yr hyn yr oedd wedi ei glywed gan achwynydd arall yn yr achos, Plentyn A, wrth yr awdurdodau am fisoedd ar ôl derbyn y wybodaeth.

Mae Plentyn A yn honni bod Mr Foden wedi ei cham-drin yn rhywiol.

Dywedodd Plentyn D fod Plentyn A wedi dweud wrthi ei bod yn mynd ar ddyddiau allan, neu 'dates' gyda Neil Foden, a'u bod yn cusanu ac yn gwneud "pethau rhywiol" yng nghefn ei gar mewn man preifat.

Ychwanegodd bod Plentyn A wedi dangos lluniau iddi a negeseuon o natur rywiol gan Mr Foden i Blentyn A.

Gofynnodd yr amddiffyniad iddi pam nad oedd wedi rhannu ei phrofiadau honedig gyda Mr Foden a dweud wrth Blentyn A am yr hyn ddigwyddodd iddi hi hefyd?

Atebodd Plentyn D fod Plentyn A "mewn cariad", a byddai wedi gwneud unrhyw beth i beidio a brifo ei theimladau.

Dywedodd Plentyn D ei bod wedi rhannu'r hyn yr oedd wedi ei glywed gan Blentyn A am y digwyddiadau honedig gydag unigolyn arall ar y pryd.

Gofynnodd Duncan Bould iddi os fyddai yna gofnodion o'r galwadau hynny wedi bod ar ei ffôn?

"Bydde", meddai'r achwynydd.

Gofynnodd y bargyfreithiwr i Blentyn D wedyn: "Fe ofynnwyd i chi gan yr heddlu i lawrlwytho cynnwys eich ffôn."

"Do", meddai Plentyn D.

"Beth wnaethoch chi ei ddweud?"

"Na", meddai.

Ar ddiwedd y croesholi, dywedodd Mr Bould fod Mr Foden yn cofio cyfarfod gyda Phlentyn D ar dri achlysur yn unig, ac nid y 15 gwaith y mae Plentyn D yn ei honni.

Clywodd y llys hefyd dystiolaeth gan unigolyn oedd yn honni iddo weld Neil Foden gyda'i ddwylo ar ben-glin merch yn ei harddegau, ac nad oedd wedi gwneud ymdrech i'w symud tra'r oedd yn siarad gyda'r tyst.

Mae'r achos yn parhau.

Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan gynnwys yr erthygl hon mae cymorth ar gael yma.

Llun: Neil Foden yn cyrraedd y llys gan Peter Byrne / PA.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.