Newyddion S4C

Annog cynghorau i gadw arwyddion 30mya rhag ofn bod ailfeddwl

06/01/2024
Janet Finch Saunders

Mae Aelod o’r Senedd wedi galw ar gynghorau yn ei hardal i gadw arwyddion 30mya rhag ofn bod yna ailfeddwl ynglŷn â’r terfyn cyflymder 20mya.

Fe wnaeth yr aelod Ceidwadol dros Aberconwy Janet Finch-Saunders yr alwad wrth i’r ddau ymgeisydd ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Lafur addo adolygiad i’r terfyn cyflymder.

Mae Cyngor Gwynedd a Chyngor Conwy wedi dweud eu bod nhw wedi cadw gafael ar arwyddion 30mya sydd mewn cyflwr da.

Dywedodd Janet Finch-Saunders y dylai Llywodraeth Cymru gysylltu gyda’r cynghorau yn galw arnyn nhw i gadw’r arwyddion 30mya rhag ofn bod y canllawiau yn newid eto.

“Pwy bynnag ydi Prif Weinidog Llafur nesaf Cymru mae bron a bod yn sicr bellach y bydd yna adolygiad o’r terfyn cyflymder 20mya,” meddai.

“Y peth gwaethaf am y newid cyfeiriad yma ydi bod cyflwyno y terfyn cyflymder wedi costio tua £30m.”

Mae adolygu’r terfyn cyflymder wedi ei gynnwys ymysg addewidion yr ymgeisydd Jeremy Miles sydd yn lansio ei ymgyrch yn Abertawe ddydd Sadwrn.

Mae’r ymgeisydd arall Vaughan Gething hefyd wedi dweud ei fod yn “awyddus” i weld adolygiad.

Ond mae’r ddau wedi dweud eu bod nhw’n cefnogi’r newid i’r terfyn cyflymder diofyn mewn egwyddor.

‘Cadw’

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd eu bod nhw bellach wedi gostwng y rhan fwyaf o ffyrdd 30mya i 20mya, tra bod 85 oedd dros ben wedi aros yn 30mya.

“Mae rhai o’r arwyddion 30mya a oedd mewn cyflwr da wedi’u cadw a’r gweddill wedi’u hailgylchu. 

“Mae Cyngor Gwynedd wedi dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru wrth gyflwyno’r cyfyngiadau newydd.

“Ers i’r newidiadau hyn gael eu cyflwyno rydyn ni wedi’i monitro a chasglwyd tystiolaeth ynglŷn â pha mor effeithiol fu’r newidiadau. 

“Mae Cyngor Gwynedd yn parhau i groesawu adborth a thrafodaeth gyda chymunedau lleol ynglŷn â’r newidiadau a’u heffaith ar ardaloedd penodol.”

Nododd hefyd mai mater i Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru fel yr Awdurdod Priffyrdd perthnasol oedd y cyfrifoldeb am gyfyngiadau cyflymder ac arwyddion ar rhai o’r prif ffyrdd yng Ngwynedd.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy eu bod nhw “wedi cadw’r holl arwyddion oedd modd eu defnyddio eto ar gyfer unrhyw ddefnydd cynnal a chadw yn y dyfodol”.

Cysylltwyd hefyd â chynghorau Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam ac Ynys Môn am sylw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.