Jeremy Miles yn addo pwyso am ddatganoli rhagor o rymoedd i Gymru os yw’n Brif Weinidog
Jeremy Miles yn addo pwyso am ddatganoli rhagor o rymoedd i Gymru os yw’n Brif Weinidog
Mae Jeremy Miles wedi addo pwyso am ddatganoli rhagor o rymoedd i Gymru os yw’n cael ei ethol fel olynydd i Mark Drakeford.
Dywedodd hefyd na fydd tro pedol ar y terfyn cyflymder 20mya pe bai'n brif weinidog nesaf Cymru er ei fod wedi gwneud addewid i gynnal adolygiad o'r drefn newydd.
Dywedodd: "Polisi 20mya yw'r polisi cywir. Mae yno i arbed bywydau.
"Ma' gwahaniaethau wedi bod ar sut mae hynny yn cael ei wireddu ar lawr gwlad.
"Byddech chi'n disgwyl gweld rhyw lefel o wahaniaeth ond ma' cyfle yn yr adolygiad 'ma i edrych oes angen cyngor newydd ar gynghorau lleol ar sut gallen nhw ddefnyddio'r disgresiwn sydd gyda nhw o fewn fframwaith genedlaethol a dyna'r math o adolygiad rwy'n sôn amdano."
Ychwanegodd y gweinidog Addysg a’r Iaith Gymraeg presennol y byddai'n gwario rhagor o arian ar addysg yng Nghymru os yw’n Brif Weinidog.
Byddai hefyd yn sefydlu canolfannau triniaeth orthopaedig arbennig i dorri amseroedd aros y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, meddai.
Daw’r cyhoeddiad wrth iddo lansio ei ymgyrch swyddogol i olynu Mark Drakeford fel arweinydd y wlad, yn ogystal â bod yn arweinydd nesaf y Blaid Lafur yng Nghymru.
Mae'n un o ddau ymgeisydd ynghyd â'r gweinidog economi Vaughan Gething yn y ras am arweinyddiaeth ei blaid.
Dywedodd Jeremy Miles cyn lansio ei ymgyrch yn Abertawe ddydd Sadwrn ei fod yn sefyll i fod yn Arweinydd Llafur Cymru a Phrif Weinidog Cymru oherwydd fod ganddo “weledigaeth ar gyfer dyfodol Cymru”.
“Mae gennym heriau ariannol anodd o’n blaen, ond rhaid inni hefyd feddwl y tu hwnt i’r rheini i sicrhau dyfodol mwy gobeithiol,” meddai.
“Fel Prif Weinidog, byddaf yn buddsoddi mwy mewn addysg, yn darparu cymorth ymarferol i’r GIG er mwyn torri rhestrau aros, ehangu tai cydweithredol, a chyflwyno prisiau bysiau tecach.
“Bydd yn rhaid i bob ceiniog sy’n cael ei gwario ar adeiladu a phrynu drwy Lywodraeth Cymru fodloni’r prawf o gefnogi swyddi cynaliadwy o safon a’n nod o fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.
“Bydd ein democratiaeth Gymreig yn cael ei chryfhau gyda Senedd gryfach a byddaf yn pwyso am ddatganoli rhagor o bwerau, gan gynnwys o fewn Cymru.
“Byddaf yn gweithio mewn partneriaeth â Keir Starmer fel Prif Weinidog nesaf Llafur i wneud yn siŵr bod Cymru’n elwa o ddwy lywodraeth - Cymru a’r DU – sy’n cydweithio ar gyfer dyfodol Cymru.”
‘Egwyddorion’
Daw ei sylwadau wedi i Vaughan Gething gyhoeddi na fyddai byth yn ystyried preifateiddio’r gwasanaeth iechyd petai'n dod yn brif weinidog nesaf Cymru.
Mae Gweinidog yr Economi wedi ymrwymo i lynu at “egwyddorion Bevan,” meddai, gan sicrhau y bydd y gwasanaeth iechyd yn parhau “yn nwylo’r cyhoedd” o hyd.
Dywedodd Mr Gething taw’r GIG yw “un o lwyddiannau balchaf” ei blaid, a'i fod yn benderfynol o sicrhau ei ddyfodol yng Nghymru.
“Fel Prif Weinidog, byddwn yn sicrhau bod y GIG yng Nghymru yn aros yn driw i’r egwyddor Bevan honno – bydd yn parhau yn nwylo’r cyhoedd,” meddai.
Vaughan Gething oedd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol dros Gymru rhwng 2016-2021, gan fod â chyfrifoldeb gyda Mark Drakeford am arwain ymateb y wlad i’r pandemig Covid-19.
Dywedodd: “Yn ystod y pandemig gwrthwynebais bwysau ffyrnig i roi diogelwch y cyhoedd yn nwylo’r sector preifat. Cawsom ein cyfiawnhau bryd hynny, a gwnaf i’r un peth eto.”