Pennaeth ysgol yn gwadu cyhuddiadau o droseddau rhyw yn erbyn plant
05/01/2024
Mae pennaeth ysgol uwchradd sydd wedi ei gyhuddo o droseddau rhyw yn erbyn plant a bod â delweddau anweddus o blant yn ei feddiant wedi gwadu'r 21 cyhuddiad yn ei erbyn.
Clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug bod yr honiadau yn ymwneud â chwe achwynydd.
Fe wnaeth Neil Foden, 66 oed, o Hen Golwyn, ymddangos yn y llys drwy gyswllt fideo o Garchar y Berwyn yn Wrecsam ddydd Gwener.
Fe wnaeth wadu cyhuddiadau o weithgarwch rhywiol gyda phlentyn, annog gweithred rywiol, ymgeisio i drefnu trosedd rywiol, cyfathrebu rhywiol gyda phlentyn, bod â delweddau anweddus o ferch yn ei feddiant, ac ymosodiad rhyw.
Mae disgwyl i'w achos llys ddechrau ym mis Ebrill.