Cafodd rali gan Gymdeithas yr Iaith ei chynnal ym mhentref Nefyn yng Ngwynedd ddydd Sadwrn.
Pwrpas y rali 'Nid yw Cymru ar Werth' oedd i bwysleisio bod "angen gwneud mwy" i reoli'r farchnad ail dai a thai gwyliau, meddai'r Gymdeithas.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod sicrhau bod gan bawb yng Nghymru "le gweddus, fforddiadwy a diogel i’w alw’n gartref" yn "uchelgais allweddol".
Wrth siarad yn y rali, dywedodd Cynghorydd Tref Nefyn, Iwan Rhys Evans, ei fod wedi ei chael yn anodd i ddod o hyd i gartref ei hun yn y gymuned.
"Mae ymdrech ein hachos yn gweithio, mae'r prisiau [tai] yn dechra dod lawr ac mae'r arwyddion 'ar werth' yn mynd fyny," meddai.
"Ond mae rhaid i ni gario mlaen ag ein achos i sicrhau fod ein plant ni ddim yn gorod cynnal rali i gael byw yn eu milltir sgwâr."
Ychwanegodd: "Nid yw mater cartrefi yn ymwneud â’r economi’n unig; mae’n ymwneud â chadw diwylliant, yr iaith, a thraddodiad Cymru.
"Gadewch inni sefyll gyda’n gilydd i amddiffyn calon Cymru – ein iaith, ein hanes ac ein pobl."
Mae'r protestwyr yn galw am ddeddf eiddo i Gymru a fyddai'n mynd i'r afael â rheoli prisiau rhent.
Fel rhan o'r ddeddf, mae'r Gymdeithas eisiau gweld cyfyngiadau o fewn y sector rhentu preifat er mwyn sicrhau bod prisiau rhent yn fforddiadwy i bobl leol.
Mae'r Gymdeithas hefyd yn galw am flaenoriaethu pobl leol wrth werthu tai, gan roi'r cyfle cyntaf i drigolion lleol neu sefydliadau cymunedol brynu neu rentu tai.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae sicrhau bod gan bawb yng Nghymru le gweddus, fforddiadwy a diogel i’w alw’n gartref yn uchelgais allweddol gan y Llywodraeth hon ac mae’r egwyddor bod gan bawb yr hawl i gartref digonol yn un yr ydym yn ei chefnogi’n llwyr.
"Mae ein Papur Gwyn ar Dai Digonol, Rhenti Teg a Fforddiadwyedd yn gam pwysig tuag at gyflawni’r uchelgais hwn ac wedi’i lywio gan y dystiolaeth a gawsom i’n hymgynghoriad ar y Papur Gwyrdd y llynedd."