Newyddion S4C

Derek Draper wedi marw'n 56 oed medd ei wraig, Kate Garraway

05/01/2024
Derek Draper

Mae'r cyn lobïwr ac ymgynghorydd gwleidyddol Derek Draper, gŵr y cyflwynydd teledu Kate Garraway, wedi marw yn 56 oed.

Roedd wedi dioddef cyfnod o salwch yn sgil dal Covid-19 ym mis Mawrth 2020.

Cyhoeddodd Kate Garraway neges Instagram yn cyhoeddi ei farwolaeth ddydd Gwener.

"Mae'n flin gen i ddweud bod fy annwyl ŵr Derek wedi marw," meddai.

"Fel y mae rhai ohonoch yn gwybod mae o wedi bod yn ddifrifol wael yn dilyn ataliad ar y galon yn gynnar ym mis Rhagfyr.

"Fe arweiniodd hynny, oherwydd y difrod a achoswyd gan Covid ym mis Mawrth 2020, at gymhlethdodau pellach.

"Roedd Derek wedi'i amgylchynu gan ei deulu yn ei ddyddiau olaf ac roeddwn i wrth ei ochr yn dal ei law trwy gydol yr oriau hir olaf cyn iddo farw."

Rhaglen ddogfen

Roedd Derek Draper yn ffigwr amlwg yn y Blaid Lafur yn y 90au gan weithio i Peter Mandelson ac ef oedd cyd-sefydlwr y corff Progress.

Bu'n rhan o sgandal lobio 'Lobbygate' ac wedi hynny fe deithiodd i'r Unol Daleithiau a hyfforddi i fod yn seicotherapydd.

Treuliodd 13 mis yn yr ysbyty ar ôl dal Covid-19 ym mis Mawrth 2020 ac roedd angen gofal dyddiol arno wedi difrod difrifol i'w organau.

Yn 2021 fe wnaeth Kate Garraway ennill gwobr yng Ngwobrau Teledu Cenedlaethol yr NTA am ei rhaglen ddogfen Finding Derek am eu profiad yn ystod y pandemig. 

Mae'n gadael ei wraig Kate a dau o blant, Darcey a Billy.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.