Newyddion S4C

Bar a chaffi newydd wedi ei enwi ar ôl y bardd Waldo Williams

21/11/2024
Waldo Lounge

Mae bar a chaffi yn Hwlffordd, Sir Benfro, sydd newydd agor wedi ei enwi ar ôl y bardd a'r heddychwr Waldo Williams.

Cafodd y Waldo Lounge yn natblygiad Glan Cei'r Gorllewin yn Hwlffordd ei agor ddydd Mercher gan Arweinydd a Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Penfro.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd Jon Harvey: "Rwy'n falch iawn o weld Loungers yn agor y busnes yn y denantiaeth gyntaf yng Nglan Cei'r Gorllewin.

“Mae hwn yn ychwanegiad gwych i'r arlwy lletygarwch yn Hwlffordd, gan alluogi Glan Cei’r Gorllewin i fod yn rhan allweddol o wella nifer yr ymwelwyr a'r bwrlwm yn y dref.

Yn ôl Loungers y datblygwyr, mae elfen gymunedol i'w bariau, gydag ymrwymiad i weithio gyda grwpiau, elusennau, sefydliadau a busnesau lleol.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Penfro a'r Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd ac Adfywio, y Cynghorydd Paul Miller: “Mae Loungers yn rhannu ein huchelgais a'n potensial ar gyfer datblygiad Glan Cei’r Gorllewin yng nghanol y dref - ac maen nhw'n cyd-fynd yn berffaith â'r weledigaeth honno.

“Mae hwn yn gam pwysig ymlaen i'n tref sirol a fydd yn gweld adfywio pellach ar draws Hwlffordd i sicrhau ei fod yn lle gwych i fyw, gweithio ac ymweld ag ef.

“Fel cyngor, rydym yn edrych ymlaen at y cyfalaf y bydd yn ei gynhyrchu i'r economi leol ac yn dymuno pob llwyddiant i dîm Loungers yn ystod y cyfnod cyffrous hwn i Hwlffordd.”

Llun: Cyngor Sir Benfro

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.