
Cyn-bostfeistr o Landudno am 'barhau i frwydro' am gyfiawnder
Mae cyn-bostfeistr o Landudno yn benderfynol o "barhau i frwydro” am gyfiawnder i is-bostfeistri gafodd eu herlyn ar gam gan y Swyddfa Bost.
Mi oedd Alan Bates yn gweithio mewn swyddfa bost yn y dref pan gafodd wybod ei fod yn colli ei swydd wedi iddo godi pryderon ynglŷn â meddalwedd cyfrifo diffygiol o’r enw Horizon.
Fe ddaw wrth i gyfres teledu ITV newydd, Mr Bates vs the Post Office, dilyn ei frwydr bersonol i fynd at wraidd cannoedd o gyhuddiadau o ladrata yn erbyn postfeistri ledled y DU.
Mae'r rhaglen wedi sbarduno galwadau i cyn-bennaeth y Swyddfa Bost, Paula Vennells, golli ei anrhydedd CBE.
Heddiw wrth ymateb i'r galwadau, dywedodd y Prif Weinidog Rishi Sunak nad "mater i'r Llywodraeth" oedd hynny, ond yn hytrach pwyllgor annibynnol sy'n trafod materion o'r fath.
"Fy ngwaith i ydi sicrhau fod cynlluniau iawndal yn eu lle, bod y bobl gafodd eu trin mor warthus yn cael y cyfiawnder mae nhw'n haeddu," meddai.
Dywedodd Alan Bates, sydd bellach yn byw ym Mae Colwyn bod y ddrama deledu wedi cyflawni ei nod o ddod a'r hyn ddigwyddodd i sylw'r cyhoedd.
“Ond y peth gyda’r ddrama yw nad ydach chi methu wir gywasgu 20 mlynedd o ymgyrchu i rai oriau o ffilmio, ond mae yn llwyddo i ail-greu naws y peth," meddai.
Dywedodd Mr Bates ei fod yn gobeithio y bydd y gyfres yn codi ymwybyddiaeth ynglŷn â "faint o ffydd fedrwn ni ei gael yn y dechnoleg, a faint fedrwn ni ymddiried ynddi".
Mae prif rôl Alan Bates yn cael ei chwarae gan yr actor adnabyddus, Toby Jones, yn y gyfres newydd.

‘Brwydro’
Ers 1999, cafodd dros 700 o bostfeistri eu herlyn ar gam am ladrad, cyfrifo ffug, a thwyll, oherwydd meddalwedd cyfrifo diffygiol Horizon.
Mae’r sgandal bellach yn cael ei gydnabod fel un o gamgymeriadau mwyaf hanes cyfiawnder ym Mhrydain, ac roedd rhaid i bostfeistri ar hyd a lled y wlad dalu gyda'u harian eu hunain er mwyn cau'r bylchau ariannol yn y system.
Dim ond yn 2019 wnaeth y Swyddfa Bost cydnabod unrhyw broblemau gyda meddalwedd Horizon, ac fe gafodd rhai o’r erlyniadau eu gwrthdroi.
Dechreuodd ymchwiliad cyhoeddus i’r sgandal yn 2021 ac roedd disgwyl iddo ddod i ben ym mis Awst 2022 ond mae’n dal i barhau. Mae disgwyl iddo barhau am “flwyddyn neu ddwy eto,” meddai Alan Bates.
Mae’n benderfynol o barhau i frwydro a sicrhau cyfiawnder ac ad-daliad i’r rheiny a wnaeth dioddef, meddai.
Mewn neges a gyhoeddwyd ddydd Mawrth dywedodd y Swyddfa Bost eu bod nhw'n "ymddiheuro yn ddiffuant" i'r rheini a gafodd eu heffeithio gan y sgandal.
"Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud iawn ac yn annog unrhyw un sydd wedi ei effeithio sydd heb ddod ymlaen i wneud hynny," meddai llefarydd.
Lluniau gan ITV.