Teyrnged i ferch 10 oed fu farw mewn gwrthdrawiad ar gae rygbi
Mae teulu merch 10 oed a fu farw ar ôl cael ei tharo gan gar trydan ar gae rygbi wedi rhoi teyrnged iddi, gan ddweud bod ganddi “ysbryd fel neb arall”.
Bu farw Poppy Atkinson, ar ôl cael ei tharo gan y cerbyd tra'n mynychu sesiwn hyfforddi yng Nghlwb Rygbi Kendal yn Cumbria nos Fercher.
Disgrifiodd ei theulu hi fel "canolbwynt eu bywydau".
Roedd hi’n benderfynol o fod yn bêl-droediwr proffesiynol a chwarae i Manchester United, medd y teulu.
Cafodd merch wyth oed, hefyd o Kendal, ei hanafu a'i chludo i'r ysbyty am driniaeth.
Cafodd gyrrwr y car BMW i40 du, dyn yn ei 40au, ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus.
Dywedodd Heddlu Cumbria ddydd Iau nad oedd “unrhyw arwydd i awgrymu bod y digwyddiad hwn yn weithred fwriadol”.
Uchelgais
Mewn datganiad, dywedodd ei theulu: “Poppy oedd canolbwynt ein bywydau, roedd popeth i ni yn ymwneud â chariad Poppy at bêl-droed.
“Fe gyffyrddodd Poppy â chymaint o fywydau, roedd yn hawdd gweld pam, roedd ei hegni, ei chymeriad, ei hysbryd a’i hangerdd am bêl-droed yn heintus ac yn cyffwrdd â nifer enfawr o bobl.
“Roedd Poppy 100% yn benderfynol o fod yn bêl-droediwr proffesiynol. Nid oedd gan lawer sy'n ei hadnabod, ac sy'n gwybod ei phenderfyniad i wella ac ennill, unrhyw amheuaeth y byddai'n cyrraedd ei nod i un diwrnod i chwarae i Manchester United.
“Roedd Poppy yn eilunaddoli Ella Toone, Georgia Stanway, (Kobbie) Mainoo a (Lionel) Messi i enwi ond ychydig.
“Roedd Poppy yn ferch fach hardd 10 oed, ond eto roedd yn cynrychioli Kendal United a thîm dan 12 y sir gyda balchder."
Ychwangeodd y teulu: “Roedd Poppy yn chwaer i Edward, saith oed. Roedd Edward yn addoli'r ddaear y cerddodd Poppy arno, dim ond eisiau bod yn debyg iddi hi oedd erioed.
“Byddai Poppy yn hyfforddi ac yn cefnogi Edward gyda’i bêl-droed, roedd mor brydferth i’w weld. Mae’r twll yn ein bywydau y mae Poppy wedi ei adael yn enfawr, fyddwn ni byth yn gyfan eto."
Prif lun: Poppy Atkinson a'i brawd Edward