Newyddion S4C

Rhoi'r gorau i gynllun i adeiladu parc gwyliau ger hosbis plant Tŷ Hafan

Parc gwyliau Henry Danter

Mae perchennog Parc Pleser Ynys y Barri wedi rhoi'r gorau i'w gynlluniau i adeiladu parc gwyliau ger hosbis plant Tŷ Hafan.

Dywedodd Henry Danter ei fod wedi gwario mwy na £1 miliwn ar ei dir ger Ffordd Hayes ym mhentref Sili ym Mro Morgannwg.

Yn y gorffennol roedd wedi dweud yn gyhoeddus sawl gwaith ei fod yn awyddus i droi’r tir i mewn i barc gwyliau. 

Ond roedd gwrthwynebiad chwyrn i'w gynlluniau gan rieni plant sy’n derbyn gofal yn hosbis Tŷ Hafan gerllaw.

Roedd deiseb i atal Mr Danter rhag parhau gyda’r gwaith adeiladu wedi denu dros 15,000 o lofnodion. 

Wrth siarad â Newyddion S4C yn 2023, dywedodd Lee McCabe o'r Bari a gollodd ei fab, Finn, yn 2018 wedi iddo dreulio wythnosau yn Nhŷ Hafan, y byddai cynlluniau Mr Danter yn "dinistrio awyrgylch a tawelwch Tŷ Hafan".

Mae Mr Danter bellach wedi dweud fod y gwrthwynebiad yma wedi rhwystro ei gynlluniau.

'Chwerthinllyd'

Mewn cyfweliad gyda gwefan WalesOnline, dywedodd Mr Danter, 81, na fyddai bellach yn ceisio datblygu'r safle ger Ffordd Hayes.

"Rwy’n 81 nawr ac nid yw fy iechyd yn wych. Dydw i ddim mor awyddus nawr i fynd ar ei ôl," meddai.

"Mae wedi bod yn: ‘Stop, stop, stop.’ Ni allwn wneud unrhyw beth yno."

Ychwanegodd Mr Danter fod y sefyllfa yn "chwerthinllyd", gan ddweud bod ganddo faes carafanau ger ei gartref yn Symonds Yat yn Lloegr lle’r oedd hosbis yr oedd "wedi dod ymlaen yn dda iawn ag ef ers blynyddoedd". 

"Rydym yn ased iddynt a gallwn ddod â lwc fawr i Gymru ac i fusnesau yng Nghymru," meddai.

"Pan fyddwn yn ehangu'r hyn y gallwn ei gynnig nid ni fydd yr unig enillwyr. 

"Gallem fod wedi gwneud mwy i Hayes Road na neb arall."

Ym mis Medi'r llynedd, dywedodd Cyngor Bro Morgannwg eu bod yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn Mr Danter.

Roedd hynny oherwydd ei fod wedi dechrau’r gwaith o dyllu yn ei dir, er iddo gael cais i beidio â gwneud.

Roedd Mr Danter wedi dweud yn flaenorol mai bwriad y gwaith oedd gwella edrychiad ei dir, a bod hawl iddo wneud hynny.

Ond ar y pryd dywedodd arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, y Cynghorydd Lis Burnett, bod tîm cynllunio’r cyngor wedi ymweld â’r safle a thrafod gyda Mr Danter "sawl gwaith", yn ogystal â chysylltu gydag ef drwy lythyron, er mwyn pwysleisio beth oedd yn cael ei wneud ar ei dir.

"Er hynny mae yna sawl enghraifft o waith yn cael ei wneud sydd heb ei ganiatáu," meddai.

Dywedodd y cyngor bod sawl digwyddiad wedi’i gofnodi yn ymwneud â Mr Danter yn defnyddio peirannau diwydiannol i godi'r tir.

Ond dywedodd Mr Danter bryd hynny fod y cyngor yn gwneud "mynydd allan o dwmpath twrch daear".

"Ry'n ni'n ceisio tacluso’r safle. Ry'n ni'n meddwl ein bod ni'n gweithredu o fewn yr hyn sy'n cael ei ganiatáu," meddai.

Cais cynllunio

Nid oedd Mr Danter wedi cyflwyno cais cynllunio a fyddai’n caniatáu iddo droi ei dir ger Ffordd Hayes yn barc gwyliau.

Roedd Mr Danter wedi gwneud cais cynllunio er mwyn codi ffens ar y tir ac fe gafodd hynny ei gymeradwyo. 

Roedd hefyd wedi gwneud cais arall er mwyn gallu cadw cynwysyddion storio yno, ac un arall ar gyfer cadw carafanau ond fe benderfynodd dynnu'r rheini yn ôl.

Fe gafodd cynlluniau i ddatblygu parc gwyliau drws nesaf i hosbis Tŷ Hafan eu gohirio y llynedd ar sail pryderon Cyngor Sir Morgannwg. 

Ond roedd y cyngor wedi rhoi stop ar unrhyw waith ar ddarn o dir Mr Danter ym mis Mawrth 2023 ar ôl derbyn tystiolaeth y gallai unrhyw ddatblygiad "arwain at ddinistrio nythod adar". 

Roedd y cais hefyd wedi dod i sylw Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Swyddog Bywyd Gwyllt a'r Amgylchedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.