Newyddion S4C

Beiciwr modur wedi marw ger yr Wyddgrug

Llanferres

Mae beiciwr modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ger yr Wyddgrug ddydd Iau. 

Derbyniodd yr heddlu adroddiad am wrthdrawiad ar yr A494 yn Llanferres ychydig wedi 09:15.

Roedd y gwrthdrawiad rhwng beic modur Honda a fan Mercedes Sprinter.

Bu farw'r beiciwr modur yn lleoliad y ddamwain.

Mae ei deulu a'r Crwner wedi cael gwybod am ei farwolaeth.

Dywedodd y Ditectif Sarjant Katie Davies o Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol Heddlu Gogledd Cymru: “Rydym yn cydymdeimlo â theulu a ffrindiau’r dyn ar yr adeg anodd yma.

“Rydym yn apelio am unrhyw dystion, neu unrhyw un a allai fod wedi bod yn teithio ar hyd yr A494 ychydig cyn y gwrthdrawiad ac a allai fod â lluniau camera cerbyd i gysylltu â ni.”

Mae’r ffordd yn parhau ar gau ond mae disgwyl iddi ail-agor yn fuan.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.