Yr hwyliwr Richard Tudor o Bwllheli wedi marw
Mae’r hwyliwr Richard Tudor o Bwllheli, a wnaeth gwblhau dwy fordaith rownd y byd, wedi marw.
Roedd yn gyn Gomodor ac yn aelod blaenllaw o bwyllgor Clwb Hwylio Pwllheli am nifer o flynyddoedd.
Yn hwyliwr llwyddiannus iawn, fe sefydlodd Goleg Morol newydd ym Mhwllheli lle bu’n ddarlithydd am gyfnod.
Dechreuodd hwylio gyda’i dad pan oedd yn ifanc.
Ar ôl gadael yr ysgol dechreuodd brentisiaeth gyda North Sails l cyn dychwelyd i Bwllheli i weithio i Brian Smart yn ‘Sail Care’.
Yn fuan wedyn, prynodd y busnes yma a’i droi yn ‘Tudor Sail Makers’.
Rasio
Hwyliodd ei ras ISORA - ras alldraeth Môr Iwerddon - gyntaf yn 1976 gydag Anthony Jones cyn cwblhau’r ras Fastnet yn 1977 a 1981.
Cafodd gynnig rôl y Gwibiwr ar British Steel, y prif gwch ar Her Rownd Y Byd British Steel – her hwylio o gwmpas y byd yn erbyn y prifwyntoedd a cherhyntau.
Llwyddodd i hwylio rownd y byd yn 1992/3 ac yna hefyd yn 1996/7.
Arweiniodd Richard deithiau i'r Cylch Artig ac roedd hefyd yn rhan o drimaran arbrofol Team Phillips. Suddodd y cwch yma yng Ngogledd yr Iwerydd a chafodd ef a’r criw eu hachub gan long oedd yn mynd heibio.
'Effaith anhygoel'
Mewn teyrnged iddo, dywedodd Clwb Hwylio Pwllheli: “Mae Richard, hwyliwr, cyn Gomodor y clwb ac aelod gweithgar o’r pwyllgor, wedi cael effaith mor anhygoel ar fywyd pob un ohonom.”
Mae teyrnged hefyd wedi’i roi iddo gan AFLOAT – Cylchgrawn Hwylio a Chychod Iwerddon:
“Mae ei gyfeillion hwylio niferus ar y ddwy ochr i Fôr Iwerddon wedi tristau o glywed am farwolaeth Richard Tudor o Bwllheli, ffigwr ysbrydoledig ym myd hwylio.
“Yn gyfranogwr ymroddedig o Gymdeithas Rasio Alltraeth Môr Iwerddon, yn 2021 derbyniodd Wobr Cyflawniad Oes CHPSC.
“Cydymdeimlwn â’i deulu, ei gyd-longwyr niferus a’i gylch ehangach o ffrindiau.”
Inline Tweet: https://twitter.com/LSRPlaid/status/1741775874297299271?s=20
Dywedodd Liz Saville Roberts, AS Plaid Cymru dros Ddwyfor a Meirionydd: “Mi wnaeth Richard gymaint i godi statws Pwllheli fel cyrchfan ryngwladol.
“Roedd yn fraint gweithio gydag o.”