Newyddion S4C

Cynnydd yn nifer y cwynion am gynghorau Cymru

tai

Cafodd bron i 11,000 o gwynion am gynghorau lleol Cymru eu cofnodi yn ystod hanner cyntaf blwyddyn ariannol 2024/25, meddai  swyddfa'r Ombwdsmon

Roedd y nifer fwyaf o gwynion am gasglu gwastraff, tai, a gwasanaethau cymdeithasol.

Mae’r ffigwr yma - 7 cwyn am bob 1,000 o drigolion - wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf, yn dilyn gweithredu trefn Safonau Cwynion yr Ombwdsmon yn 2019. 

Mae cofnodion yn dangos fod 37% o’r cwynion a gofnodwyd yn ymwneud â gwastraff a sbwriel, roedd 18% yn ymwneud â thai, a 12%  am wasanaethau cymdeithasol. 

Landlordiaid cymdeithasol 

Mae’r data yn dangos bod mwy na 3,500 o gwynion wedi’u cofnodi  yn ystod yr un cyfnod am landlordiaid cymdeithasol - mae hyn yn cyfateb i tua 32 o gwynion am bob 1,000 o denantiaid.

Y landlordiaid yma yw rhai sydd wedi eu cyflogi gan gynghorau neu ddarparwyr cofrestredig tai cymdeithasol eraill fel cymdeithasau tai.

Roedd 71% o'r cwynion a dderbyniwyd gan y landlordiaid yn ymwneud ag atgyweirio a chynnal a chadw - gan gynnwys lleithder a llwydni.

Yn ystod y cyfnod hwn mae landlordiaid cymdeithasol wedi delio a tua 80% o’u cwynion o fewn yr amserlenni a osodwyd o dan eu polisïau - hyd at 20 diwrnod gwaith. 

Mae'r data hefyd yn dangos bod y landlordiaid wedi cadarnhau bron i 60% o'r cwynion eu hunain. 

Roedd y data ar gyfer byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau yng Nghymru wedi derbyn ychydig dros 9,000 o gwynion yn hanner cyntaf 24/25; mae hyn yn cyfateb i tua 6 chwyn am bob 1,000 o drigolion Cymru.

Wrth roi ei sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: "Rydym yn falch bod ein gwaith ar safonau cwynion yn golygu bod bron i 250,000 o denantiaid cymdeithasol bellach yn elwa ar brosesau gwell o ymdrin â chwynion.

"Dylai’r data hwn, ynghyd â gwybodaeth gan gyrff cyhoeddus eu hunain, fod yn offeryn pwysig i wella gwasanaethau i bobl ledled Cymru”. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.