Tanau Los Angeles: Syr Anthony Hopkins ymhlith yr enwogion sydd wedi colli eu cartrefi
Tanau Los Angeles: Syr Anthony Hopkins ymhlith yr enwogion sydd wedi colli eu cartrefi
Mae'r actor byd enwog o Bort Talbot, Syr Anthony Hopkins, ymhlith yr enwogion sydd wedi colli eu cartrefi wrth i danau gwyllt ledu trwy ardaloedd Los Angeles.
Mae pump o bobl wedi marw a mwy na 1,000 o adeiladau wedi'u dinistrio wrth i chwe thân losgi yn y ddinas yng Nghaliffornia a'r cyffiniau.
Y gred yw bod mwy na 130,000 o bobl wedi cael gorchymyn i adael eu cartrefi yn Los Angeles.
Daw'r gorchymyn wedi i dân newydd ddechrau ym Mryniau Hollywood.
Un o'r ardaloedd sydd wedi ei tharo gwaethaf gan y tanau yw'r Pacific Palisades, lle'r oedd gwyntoedd cryfion wedi amgylchynu’r fflamau.
Yn ôl adroddiadau yn y Daily Mail, mae cartref Syr Anthony Hopkins ymhlith y rhai sydd wedi 'diflannu' yn sgil y tanau.
Mae lluniau yn dangos cartref Syr Anthony, 87 oed, yn ardal y Pacific Palisades, sydd wedi'i ddinistrio gan y fflamau.
Roedd seren y ffilm Casino, yr actor James Woods, yn ei ddagrau ar CNN wrth iddo ddisgrifio colli ei gartref yn y Pacific Palisades.
"Un diwrnod rydych chi'n nofio yn y pwll a'r diwrnod wedyn mae'r cyfan wedi diflannu," meddai wrth y gwasanaeth newyddion.
'Calonnau wedi torri'
Mae'r actor Billy Crystal a’i wraig, Janice, wedi dweud bod eu "calonnau wedi torri" wrth golli eu cartref lle maen nhw wedi bod yn byw ers 1979.
Mewn datganiad, dywedodd y seren When Harry Met Sally: "Fe wnaethon ni fagu ein plant a’n hwyrion yma.
"Roedd pob modfedd o'n tŷ wedi'i lenwi â chariad - atgofion hyfryd nad oes modd eu cymryd i ffwrdd.
"Mae ein calonnau wedi torri ond gyda chariad ein plant a'n ffrindiau fe ddown ni drwy hyn."
Inline Tweet: https://twitter.com/ParisHilton/status/1877151779508703444
Llun: Agustin Paullier / AFP