Newyddion S4C

Angen i arolygiadau ysgolion ‘fod yn fwy empathetig’ ar ôl marwolaeth prifathrawes

02/01/2024
s4c

Mae angen i arolygiadau ysgolion “fod yn fwy empathetig” yn ôl arweinydd newydd corff Ofsted.

Daw ei sylwadau wedi i grwner ddod i’r casgliad bod arolygiad Ofsted yn “debygol o fod wedi cyfrannu” at farwolaeth y brifathrawes Ruth Perry.

Wrth gofnodi rheithfarn o hunanladdiad, dywedodd y crwner fod yna "ddiffyg tegwch, parch, a sensitifrwydd" yn yr arolwg o ysgol Ruth Perry yn Reading.

Wedi'r cwest, dywedodd chwaer Ms Perry fod system arolygon Ofsted yn "greulon a di-hid."

Ofsted sy’n arolygu ysgolion yn Lloegr, tra bod Estyn yn gwneud yr un gwaith yng Nghymru.

Dywedodd Syr Martyn Oliver, a ddechreuodd yn ei swydd fel prif arolygydd Ofsted ddydd Llun, bod marwolaeth Ruth Perry yn “drasiedi ac yn sioc go iawn”.

Ychwanegodd bod yn rhaid i’r corff dderbyn y feirniadaeth a “dechrau o’r newydd a symud ymlaen”.

 “Yn y pen draw mae’n rhaid i ni gynnal safonau uchel ond rwy’n meddwl y gallwn wneud hynny mewn ffordd sy’n llawer mwy empathetig.

“Rwy’n benderfynol o ddysgu’r gwersi hynny ac y byddwn yn adolygu ein harferion, yn gweithio gydag eraill ac yn ymateb yn llawn i gwest y crwner.”

Mae undeb Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon (NAHT) a’r Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau (ASCL) wedi galw am ddod ag arolygiadau i ben nes bod Ofsted yn gweithredu ar y newidiadau a awgrymodd y crwner.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.