Newyddion S4C

Abi Tierney: Undeb Rygbi Cymru yn cymryd cyfrifoldeb am sefyllfa wael rygbi Cymru

Abi Tierney: Undeb Rygbi Cymru yn cymryd cyfrifoldeb am sefyllfa wael rygbi Cymru

Mae Abi Tierney wedi dweud bod angen i Undeb Rygbi Cymru (URC) gymryd "cyfrifoldeb lawn" am berfformiadau gwael a sefyllfa druenus rygbi Cymru.

Dywedodd prif weithredwr URC mai'r bwrdd rheoli sydd ar fai am gyfnod gwaethaf y tîm cenedlaethol erioed.

17 colled ryngwladol yw hi i dîm dynion Gymru bellach, a'r diweddaraf y golled fwyaf erioed yn y Chwe Gwlad, 68-14 yn erbyn Lloegr yng Nghaerdydd.

Dywedodd Tierney y byddai yn parhau yn y swydd er gwaethaf sylwadau negatif amdani.

"Mae'n ddinistriol, enwedig ar ôl perfformiad positif y tîm dan 20 a'r perfformiadau yn erbyn Iwerddon a'r Alban," meddai wrth siarad ar bodlediad Scrum V.

"Mae'r bai ar URC. Ni sydd yn gyfrifol am sicrhau bod y tîm gorau yn cael eu dewis ond mae hyn wedi bod yn rhywbeth sydd wedi bod yn adeiladu ers hir ac fe fydd yn cymryd amser i'w ddatrys."

'Personol'

Cafodd Abi Tierney ei phenodi fel prif weithredwr newydd yr undeb ym mis Awst 2023, gan gymryd yr awenau yn swyddogol yn Ionawr 2024.

Hi yw prif weithredwr benywaidd cyntaf yr URC ac mae'n dweud dyma'r swydd fwyaf heriol iddi erioed ei wneud.

"Dyma'r peth anoddaf dwi erioed wedi gwneud. Wrth gwrs, dwi wedi asesu fy sefyllfa ond dwi'n credu bod yr hyn rydym yn gwneud yn trwsio'r sefyllfa.

"Os fyddwn i'n gadael, byddai hynny yn cael effaith ar yr holl broses.

"Ond dwi yn gweld pethau'n anodd, ac ydy'r feirniadaeth bersonol yn cael effaith arnaf? Ydy, mae'n anodd iawn ond dwi eisiau bod yma am y blynyddoedd i ddod."

Image
Cymru yn erbyn Lloegr
Chwaraewyr Cymru yn erbyn Lloegr (Llun: Asiantaeth Huw Evans)

Ar hyn o bryd mae Tierney yn y broses o benodi cyfarwyddwr rygbi newydd i'r undeb, ac mae'r cyfweliadau ar gyfer hwnnw eisoes wedi cychwyn wythnos hon.

Wedi adolygiad gyda'r chwaraewyr yn yr hydref, fydd URC yn chwilio am gydbwysedd wrth benodi hyfforddwr newydd cyn gemau’r haf yn erbyn Japan.

"Yr hyn ddaeth allan o adolygiad yr hydref yw bod angen hyfforddwr sy'n gallu cysylltu â chwaraewyr iau, llai profiadol," meddai.

“Nid yw hynny o reidrwydd yn cael ei yrru gan oedran ond yn hytrach yn ymwneud ag arddull a dull chwarae cymaint â’u hanes yn y byd rygbi.”

Torri rhanbarth?

Fe wnaeth Tierney gyfaddef bod "cymaint o rannau o'r system wedi torri" a chydnabod nad oedd rygbi Cymru oedd ar gael i gefnogwyr "yn ddigon da".

Dywedodd cyn-gapten Cymru Sam Warburton fod yn rhaid i rygbi Cymru nawr ystyried torri rhanbarth i gyfuno talent y chwaraewyr yn dri chlwb.

Ond fe ymatebodd Tierney drwy honni y byddai’r broses honno’n cymryd o leiaf dwy flynedd yn ogystal â "thynnu sylw a phoen” oddi ar y perfformiadau ac mae’n credu bod cadw Caerdydd, y Dreigiau, y Gweilch a’r Scarlets yn benderfyniad “beiddgar”.

“Rydyn ni wedi ymrwymo’n llwyr i bedwar rhanbarth yn gyfartal, gan roi’r cyfle iddyn nhw i gyd fod yn llwyddiannus a bydd hynny’n tyfu’r gêm,” meddai.

“Rydym yn cynyddu’r cyllid yn ogystal â gwella’r llwybrau i gael digon o chwaraewyr o safon yn chwarae.

“Bydd y strategaeth honno’n gyflymach ac yn cael effaith yn gynt na symud i dri.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.