
Rhybudd melyn am wyntoedd cryfion yn parhau ar gyfer rhannau o Gymru
Mae rhybudd melyn am wynt yn parhau mewn grym ar gyfer rhannau helaeth o dde Cymru.
Bydd y rhybudd melyn am wyntoedd cryfion mewn grym o 10.00 bore Sul tan 23.59 nos Sul.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, mae disgwyl y gwyntoedd mwyaf cryf ger arfordiroedd y de orllewin, gyda chryfder o tua 65-75mya.
Fe allai’r tywydd achosi oedi ar wasanaethau trên a bws, gyda disgwyl i deithiau gymryd mwy o amser.
Mae’n debygol y bydd tonnau mawr ar rai llwybrau arfordirol a glannau’r môr.
Fe fydd y rhybudd mewn grym yn y siroedd canlynol:
- Pen y bont
- Caerffili
- Caerdydd
- Sir Gaerfyrddin
- Ceredigion
- Sir Fynwy
- Castell-nedd Port Talbot
- Casnewydd
- Sir Benfro
- Rhondda Cynon Taf
- Abertawe
- Bro Morgannwg
Inline Tweet: https://twitter.com/NatResWales/status/1741219302202638367
Mae rhybudd llifogydd coch ar gyfer yr Afon Ritec yn Ninbych y Pysgod a hefyd yr Afon Tywi yn parhau mewn grym.
Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru mae disgwyl llifogydd i effeithio ar eiddo ynysig rhwng Llandeilo ac Abergwili.

Daw hyn yn dilyn glaw trwm mewn rhannau nos Sadwrn.
Mae hefyd rhybudd llifogydd melyn ‘byddwch yn barod’ ar gyfer 12 o ddalgylchoedd afon eraill.