
Branwen: Darlledu sioe am un o geinciau’r Mabinogi ar S4C
Mae seren sioe am un o geinciau’r Mabinogi wedi dweud ei bod yn “gyffrous” gweld sut y bydd yn trosglwyddo i’r sgrin wrth i S4C ei darlledu nos Sadwrn.
Ail-ddychymyg cyfoes o stori Branwen, un o straeon chwedlonol hynafol y Mabinogi, yw’r sioe lwyfan Branwen: Dadeni.
Fe aeth y sioe gerdd gan Ganolfan Mileniwm Cymru a Frân Wen ar draws Cymru ym mis Tachwedd.
Dywedodd Mared Williams sy’n chwarae’r brif ran ei bod hi’n edrych ymlaen at fod yn y gynulleidfa am y tro cyntaf.
“Dwi’n gyffrous i weld sut mae’r stori yn trosglwyddo i’r sgrîn,” meddai.
“Dwi’n edrych ymlaen i weld rhannau o’r stori nad oeddwn i’n gallu gweld oherwydd fy mod ar y llwyfan rhan fwyaf o’r amser fel Branwen!
“Mi oedd hi’n fraint llwyr cael chwarae rôl sydd yn gyfarwydd iawn i ni yn ein storïau yma yng Nghymru.
“Roedd hi bendant yn sialens creadigol dod fyny efo fersiwn oedd yn gweddu’r sioe ail-ddychmygol a fersiwn sy’n debycach i fyd heddiw ond ges i gymaint o foddhad allan o gydweithio gyda’r cast a tîm creadigol anhygoel.”

‘Braint’
Cafodd Branwen: Dadeni ei hysgrifennu gan Hanna Jarman, Elgan Rhys a Seiriol Davies, gyda geiriau a cherddoriaeth gan Seiriol Davies. Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen, Gethin Evans, wnaeth ei chyfarwyddo.
Yn ogystal â Mared Williams sy’n chwarae’r brif ran, mae Gillian Elisa yn chwarae Ena, ffigwr sy’n cynghori Matholwch, Brenin Iwerddon.
Ymysg gweddill y cast o actorion a cherddorion mae Rithvik Andugula, Caitlin Drake, Lisa Angharad, Tomos Eames, Huw Euron, Ioan Hefin, Steffan Hughes, Miriam Isaac, Elan Meirion, Niamh Moulton, Cedron Sion, Adam Vaughan, Mali Grooms a Tegwen Velios.
Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen, Gethin Evans ei bod yn “fraint” rhannu’r sioe “gyda chynulleidfa ehangach”.
“Rydym yn gwerthfawrogi’r cyfle i hyrwyddo talentau anhygoel yr artistiaid cyffrous sydd wedi bod ynghlwm wrth y gwaith o greu'r cynhyrchiad beiddgar yma sy’n ail-ddiffinio un o’n trysorau ni fel cenedl,” meddai.
Bydd Branwen: Dadeni ar S4C Nos Sadwrn, 30 Rhagfyr 21:00 a hefyd ar alw ar S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill. Mae'n gynhyrchiad Afanti ar gyfer S4C.