Drama 'arloesol' newydd yn trafod gwreiddiau Cymreig y cyffur Viagra
Drama 'arloesol' newydd yn trafod gwreiddiau Cymreig y cyffur Viagra
Mae drama "arloesol" newydd sydd wedi’i seilio ar hanes y cyffur Viagra yng Nghymru yn rhoi cyfle i ddynion drafod pynciau “sensitif,” gan gynnwys eu hiechyd meddwl.
Mae’r ffilm, Men Up, yn dilyn taith pum Cymro wrth iddyn nhw gymryd rhan mewn gwaith ymchwil cynnar yn ymwneud â’r cyffur yn ystod y 90au.
Ac mae sawl wyneb adnabyddus i’w weld yn rhan o’r criw o actorion, gan gynnwys Joanna Page, Iwan Rheon a Steffan Rhodri.
Wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C, dywedodd Steffan Rhodri: “Dwi’n ofnadwy o browd wrth gwrs.
“Ges i fy ngeni yn Ysbyty Treforys, dwi ‘di cael triniaeth yn Ysbyty Treforys, mae fy mam wedi gweithio yn y gwasanaeth iechyd yn Abertawe felly dwi’n prowd iawn.
“Ond o’n i ddim yn gwybod dim byd am y stori… dwi ddim yn credu bod lot o bobl yn gwybod hwnna.
“Mae’n stori arloesol a phwysig iawn,” meddai.
Iechyd meddwl
Mae’r cyffur bellach wedi’i gymeradwyo, ac wedi “newid bywydau” miliynau o bobl ledled y byd, ac mae’r ffilm yn dilyn hanes gwirioneddol profion cychwynnol Viagra yn Ysbyty Treforys, yn Abertawe.
Wedi’i ddisgrifio fel “pennod ddirgel” yn hanes hir Ysbyty Treforys, roedd nifer o drigolion lleol yn “falch” wrth wylio’r ffilm am y tro cyntaf mewn premiere arbennig yn Abertawe.
Ac mae'r ffilm hefyd yn codi ymwybyddiaeth ynglŷn â'r heriau iechyd meddwl mae dynion yn eu wynebu mewn cysylltiad â’r cyffur, meddai rhai o'r actorion.
Dywedodd yr actor Iwan Rheon: "Dim y cyffur ei hun a'r treial ei hun sy'n helpu'r dynion yma i fedru cychwyn siarad am y broblem, ond cychwyn siarad amdano fe sy'n gosod pawb ar y ffordd i wella."
Bydd modd gwylio Men Up ar raglen BBC a’r iPlayer am 21.00 nos Wener.