Newyddion S4C

Ffrwydrad Trefforest: Dynes wedi marw ar ôl dioddef 'anafiadau gwasgu trawmatig'

27/12/2023
Danielle Evans

Clywodd cwest bod dynes a gafodd ei darganfod yn farw ar safle ffrwydrad yn Rhondda Cynon Taf wedi dioddef anafiadau gwasgu trawmatig. 

Cafodd corff Danielle Evans ei ddarganfod ar ôl i’r heddlu archwilio'r ardal ar Ystad Ddiwydiannol Trefforest, Rhondda Cynon Taf, ganol Rhagfyr.

Roedd Mrs Evans yn byw yng Ngorseinon , Abertawe ac yn rhedeg cwmni Celtic Food Labs. 

Wrth ymateb i'w marwolaeth, dywedodd teulu Danielle Evans y byddai "colled fawr ar ei hôl."

“Roedd Dan yn fenyw wych. Mae hi'n gadael twll enfawr yng nghalonnau ei theulu a'i ffrindiau, na chaiff fyth ei lenwi," meddai'r teulu. 

Daeth adroddiadau o ffrwydrad mewn adeilad ar Ystad Ddiwydiannol Trefforest, ar Heol Hafren ychydig wedi 19:00 ddydd Mercher, 13 Rhagfyr. Bu ffyrdd cyfagos ar gau am beth amser wedi'r tân mawr. 

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Heddlu De Cymru fod y tân wedi cynnau mewn campfa. 

Yn y cwest ddydd Mercher, dywedodd  y Crwner Graeme Hughes fod ymchwiliad yr heddlu yn parhau a'i fod yn gobeithio y bydd diweddariad erbyn diwedd mis Mawrth. 

Ychwanegodd ei fod yn cydymdeimlo â theulu Mrs Evans.

Cafodd y cwest ei ohirio a chaiff dyddiad ei gyhoeddi ar gyfer y gwrandawiad pan fydd diweddariad yr heddlu wedi ei gyflwyno.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.