Newyddion S4C

"Cyfnod tywyll": Aloma yn datgelu iddi gael canser yr ysgyfaint

27/12/2023
Tony ac Aloma ar lwyfan.jpg

Mae’r gantores Aloma wedi siarad yn deimladwy am y cyfnod “tywyll” wedi iddi dderbyn diagnosis o ganser yr ysgyfaint.

Ar ôl brwydro syndrom blinder cronig Myalgic Encephalomyelitis neu ME ers degawdau, daeth diagnosis o ganser yn sioc enfawr i Aloma. 

Ond wedi triniaeth radiotherapi, mae Aloma bellach wedi cael gwybod ei bod yn glir o ganser.

Cafodd y driniaeth ychydig cyn recordio pennod arbennig o gyfres adloniant S4C, Noson Lawen, fydd yn dathlu 60 mlynedd y ddeuawd boblogaidd, Tony ac Aloma, ym myd adloniant.

Mae'r ddau wedi gwerthu dros 100,000 o albymau a bydd y rhaglen yn deyrnged i’w cyfraniad enfawr i’r sîn gerddoriaeth Gymraeg, gyda chaneuon eiconig  fel Mae Gen i Gariad, Dim Ond Ti a Fi, a Caffi Gaerwen. 

Yn ôl Aloma, mae byw gyda'r syndrom blinder cronig ME wedi ei helpu i oresgyn y salwch diweddaraf.

'Canser wedi mynd' 

Dywedodd Aloma: “Yn ystod y misoedd nesaf bydd y doctoriaid yn parhau i fonitro fi a bydd gen i sganiau ac ati ond diolch i Dduw, mae’r canser wedi mynd.”

“Cefais ddiagnosis o ME bron i 30 mlynedd yn ôl. Roedd yn salwch cymharol anhysbys ar y pryd ac fe gymerodd amser i’w ddiagnosio.

“Does dim llawer yn y ffordd o drin ME ond mae wedi cael cryn effaith arna i ond yn ein busnes mae’n rhaid i’r sioe fynd yn ei blaen.

“Un enghraifft oedd pan oeddan ni’n gwneud tymor haf yn Eastbourne gyda’r digrifwr Tom O’Connor ac roedd rhaid i ni wenu a chwarae a chanu ond rhai nosweithiau mi fyddwn i’n dod i oddi ar y llwyfan a phasio allan.

“Dw i wedi brwydro dros y blynyddoedd a peidio gadael iddo reoli mywyd ac roedd yr un peth yn wir efo’r diagnosis o ganser.

“Dw i wedi bod lawr ac mewn lle tywyll iawn ac yn meddwl y gwaethaf ac wedyn yn dweud wrth fy hun ‘tyrd ‘mlaen, gallai fod yn waeth, a diolch byth ges i newyddion da. 

“Dydi llawer o bobl ddim yn cael hynny a 'dw i wedi bod yn lwcus,” meddai.

Diolchgar

Dywedodd Aloma ei bod hi a Tony yn ddiolchgar i gwmni cynhyrchu Cwmni Da o Gaernarfon am wneud y rhaglen arbennig ar ôl iddi gael gwybod ei bod yn glir o’r canser.

“Rydym yn ddiolchgar i Gwmni Da am gredu ein bod yn haeddu rhaglen fel hon ar ôl cyfnod mor hir.

“Ar y dechrau, doeddan ni ddim yn meddwl y bydden ni’n gallu gwneud hynny. Doedd Tony ddim eisiau gwneud hynny achos mae’n meddwl ei fod yn rhy hen, mae o’n 84 rŵan.

“Roeddwn i wedi cael diagnosis o ganser a newydd gael triniaeth ond doeddan ni ddim yn gallu gwrthod y cynnig ac roeddwn i’n falch iawn ein bod ni wedi gwneud hynny. Cawsom ddiwrnod arbennig iawn.”

Ar raglen Noson Lawen, fe fydd y pâr yn sgwrsio gyda'r cyflwynydd Kris Hughes am eu gyrfa faith. 

Image
Tony ac Aloma
Tony ac Aloma yn sgwrsio gyda Kris Hughes

Dywedodd Olwen Meredydd, cynhyrchydd Noson Lawen: “Mae Tony ac Aloma yn gewri y sîn bop Gymraeg sy’n cael eu caru gan genedlaethau o gefnogwyr ac mae’r sioe yn tanlinellu pa mor hollol wych oedden nhw.

“Mae’r rhaglen hon yn arbennig yng ngwir ystyr y gair oherwydd mae’n gyfle arall i gyflwyno eu catalog o ganeuon gwych, caneuon cofiadwy iawn sy’n gwneud i’ch traed dapio neu eich calon i wylo."

Ychwanegodd Olwen Meredydd: “Noson Lawen yw un o’r sianeli YouTube Cymraeg mwyaf poblogaidd yn y byd ac roeddem yn cael ceisiadau cyson am eiriau i’r caneuon. Dyna oedd yr ysgogiad i greu sianel Carioci.

“Rydym yn gobeithio y bydd yn adnodd i gantorion ifanc ddysgu caneuon ar gyfer cyngherddau, clyweliadau a chystadlaethau; cyfle i ddysgwyr Cymraeg ymarfer drwy ganu a chyfle i bawb fwynhau canu carioci Cymraeg mewn partïon, priodasau, nosweithiau cymdeithasol, yn y dafarn neu hyd yn oed gartref o flaen y drych!”

Bydd y rhaglen arbennig Noson Lawen i Tony ac Aloma yn cael ei darlledu ar S4C nos Sadwrn, Ionawr 6, ac mae’r sianel Carioci Noson Lawen i’w gweld yn www.youtube.com/@NosonLawen

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.