Newyddion S4C

Eluned Morgan a Syr Keir Starmer yn annerch cynhadledd Llafur Cymru

Eluned Morgan a Keir Starmer

Fe wnaeth Eluned Morgan yn annerch cynhadledd Llafur Cymru am y tro cyntaf fel Prif Weinidog ddydd Sadwrn.

Cafodd ei hethol yn Brif Weinidog ym mis Mehefin, a hi yw y fenyw gyntaf i arwain Llafur Cymru a'r fenyw gyntaf i gael ei hethol i fod yn Brif Weinidog Cymru.

Gan gyfeirio at ei thaith wrando a gynhaliwyd yn ystod yr haf, dywedodd Eluned Morgan ddweud wrth aelodau ei phlaid: "Rwyf wedi gwrando, rwyf wedi clywed, rwy'n gwneud iddo ddigwydd."

Cyhoeddodd £22 miliwn ychwanegol i fynd i'r afael â rhestrau aros y GIG yn ystod ei haraith. 

Daw hyn â’r cyfanswm sydd wedi’i ymrwymo i £50 miliwn i fynd i’r afael â’r rhestrau aros hiraf yn GIG Cymru.

Fe wnaeth hi hefyd hyrwyddo’r bartneriaeth rhwng dwy Lywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd a San Steffan.

Daw hyn bythefnos ar ôl i Rachel Reeves gyhoeddi setliad cyllid o £21 biliwn i Lywodraeth Cymru yn araith y Gyllideb.

Cafodd pum prosiect ynni adnewyddadwy newydd eu cyhoeddi yn ystod ei haraith, yn ogystal â manylion am sut y bydd y Llywodraeth Cymru yn torri biwrocratiaeth i gyflymu cynlluniau seilwaith.

Roedd y Prif Weinidog Keir Starmerwedi annerch y gynhadledd yn Llandudno fore Sadwrn.

Fe wnaeth ef gadarnhau y bydd y Parth Buddsoddi gwerth £160 miliwn yn Wrecsam a Sir y Fflint yn weithredol y flwyddyn nesaf. 

Hon fydd y Gynhadledd Lafur Gymreig gyntaf i’r Arweinydd Llafur ei annerch fel Prif Weinidog, yn dilyn buddugoliaeth ei blaid ym mis Gorffennaf.

Prosiectau aerofod

Ddydd Gwener fe wnaeth Syr Keir Starmer ymweld ag Airbus ym Mrychdyn ar ei daith gyntaf i Gymru ers y gyllideb.

Cyn ei ymweliad, roedd wedi cadarnhau prosiectau aerofod yng Nghymru gwerth £49 miliwn.

Y gobaith yw y bydd De-orllewin Lloegr a Chymru yn cyfuno i ddylunio ac adeiladu tua hanner o’r holl adenydd ar gyfer awyrennau sifil mawr y byd.

Fe wnaeth y Canghellor, Rachel Reeves addo buddsoddi bron i £1 biliwn mewn i ddiwydiannau sydd ar flaen y gad dros y pum mlynedd nesaf gyda’r nod o ysgogi twf a chreu swyddi sgiliau uchel.

Bydd ceisiadau am y buddsoddiad yn agor fis Ionawr, gyda’r bwriad o ddechrau prosectiau adeg Hydref 2025.

“O injans awyrennau modern i hofrenyddion, mae’r diwydiant aerofodol yn y DU o safon fyd-eang,” meddai’r Prif Weinidog.

“Mae’r DU ar reng flaen y diwydiant aerofodol, a thrwy gynyddu ein buddsoddiad gallwn agor y drws i dechnoleg y dyfodol a chamu ymlaen at dwf a chreu cyfleoedd dros ein gwlad.”

Mewn ymateb, dywedodd cadeirydd Airbus UK, John Harrison: “Mae’r ymrwymiad o £975m i’r sector aerofodol dros y pum mlynedd nesaf yn sicrhau buddsoddiad hirdymor a dilyniant y cynllun twf, ymchwil a datblygiad y DU ac yn cydnabod rôl hanfodol y sector aerofodol i’r Strategaeth Ddiwydiannol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.