Junior Eurovision: Cymru yn 'colli cyfle' wrth beidio cystadlu eleni
Mae cyn gystadleuydd Junior Eurovision yn dweud bod Cymru yn "colli cyfle" trwy beidio cystadlu eleni.
Manw Robin oedd y person cyntaf o Gymru i gystadlu yn y gystadleuaeth pan gynrychiolodd y wlad yn 2018 gyda'i chân 'Perta.'
"Dwi’n teimlo fel bod Cymru wedi colli cyfle i arddangos yr iaith Gymraeg a thalent ifanc ar lefel byd-eang, modern trwy beidio cael cynrychiolaeth eleni," meddai wrth Newyddion S4C
“Mae’n drist mai dim ond dwywaith yr ydym wedi cystadlu cyn i Covid daro a tharfu ar y momentwm.”
Fe wnaeth Cymru cystadlu yn 2019 hefyd ond ers hynny nid yw'r wlad wedi cael ei chynrychioli yn y gystadleuaeth.
Wrth drafod ei phrofiad ar y rhaglen, dywedodd Manw Robin bod cyflwyno Cymru a'i hiaith i'r byd yn deimlad bythgofiadwy.
Inline Tweet: https://twitter.com/S4C/status/1066732269698727936
“Doeddwn i ddim wedi sylweddoli ar y pryd peth mor boblogaidd ydi Junior Eurovsion yn Ewrop. Mae o fel fersiwn ieuenctid o’r Eurovision ym mhob ffordd.
“Oedd o’n brofiad bythgofiadwy ag unigryw iawn. Fyddwn i byth wedi ymweld â Belarws fel arall mae’n debyg. Roedd canu’n fyw o flaen torf o 17,000 yn arena Minsk a 2.5 miliwn yn gwylio yn wefreiddiol," meddai.
“Roedd cael bod yn rhan o ddigwyddiad rhyngwladol enfawr yn anrhydedd mawr ac wrth gwrs roeddwn i’n torri tir newydd gan mai fi oedd cynrychiolydd cyntaf erioed Cymru.
“Wna i fyth anghofio chwifio baner y ddraig goch yn falch ar lwyfan Eurovision a bod yn llysgennad i gyflwyno Cymru a’r iaith Gymraeg i’r byd."
'Penderfyniadau anodd'
Yr European Broadcasting Union sydd yn trefnu'r gystadleuaeth, ac mae gwledydd yn cystadlu trwy sianeli cenedlaethol eu gwledydd.
Penderfynodd y BBC nad oedden nhw am ddarlledu'r gystadleuaeth eleni, gan olygu nad oedd gan y DU cynrychiolaeth o gwbl.
“Weithiau mae rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd a ni fydd y BBC yn cystadlu yn Junior Eurovision eleni," meddai llefarydd.
Dywedodd llefarydd ar ran S4C bod penderfyniad BBC yn yr haf i beidio darlledu eleni "ddim yn caniatáu digon o amser i S4C fedru newid ein cynlluniau ar gyfer y gystadleuaeth."
Ni fyddai Manw Robin o Rosgadfan yng Ngwynedd wedi cael cyfleodd eraill yn y byd perfformio heblaw am y gystadleuaeth, meddai.
“Deilliodd nifer o gyfleoedd i mi berfformio ar deledu ac yn gyhoeddus o gynrychioli Cymru yn yr Eurovision.
“Mae yna gymaint o dalent yng Nghymru a llawer o bobl ifanc fysa’n cael budd o’r profiad arbennig yma, nid yn unig fel perfformiwr, ond fel unigolyn."