Carcharu dau ddyn ar ôl i fachgen gael ei saethu drwy flwch post yng Nghaerdydd

Ashley Corbin ac Efekan Karahan
Ashley Corbin ac Efekan Karahan

Mae dau ddyn o Fryste wedi cael eu carcharu ar ôl i fachgen gael ei saethu drwy flwch post yng Nghaerdydd.

Roedd Efekan Karahan, 18 oed, ac Ashley Corbin, 21 oed, wedi mynd at ddrws ym Mhontprennau gyda gwn, gyda Karahan yn ei saethu ddwywaith drwy'r blwch post.

Cafodd bachgen 15 oed ei gludo i'r ysbyty i gael triniaeth ar gyfer anafiadau i'w goesau. Nid oedd yr anafiadau yn peryglu ei fywyd.

Yn dilyn gwrandawiad yn Llys y Goron Casnewydd ddydd Gwener, cafodd Karahan ei ddedfrydu i wyth mlynedd a phedwar mis dan glo, tra bod Corbin wedi cael ei ddedfrydu i chwe blynedd o garchar. 

Roedd y ddau eisoes wedi pledio'n euog.

Cafodd y ddau eu harestio ar 16 Mehefin ym Mryste yn dilyn ymchwiliad o dan arweiniad Heddlu'r De.

Tystiolaeth

Roedd eu ffonau symudol yn cynnwys negeseuon, nodiadau llais a fideo a oedd yn dangos Karahan yn saethu.

Fe wnaeth yr heddlu ddarganfod rhagor o dystiolaeth mewn car VW Golf llwyd a oedd y pâr wedi'i ddwyn a'i ddefnyddio yn ystod y digwyddiad.

Roedd GPS y car yn dangos y llwybr yr oedd y car wedi teithio rhwng Bryste a Chaerdydd, ac yn ôl, ar ddiwrnod y saethu.

Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Uwcharolygydd Mark O’Shea: "Roedd hwn yn weithred o drais di-hid mewn tŷ lle’r oedd plant ifanc.

"Pan saethodd Karahan drwy’r blwch post, roedd wedi anwybyddu'n llwyr pwy allai fod wedi bod y tu ôl i’r drws. Roedd yn ffodus iawn bod y gwarchodwr blwch y tu mewn i’r eiddo wedi cymryd grym y bwledi."

Ychwanegodd: "Rwy’n gobeithio y bydd y dedfrydau a roddwyd i’r ddau yn anfon neges glir at y rhai sy’n benderfynol o ddod â’r math hwn o drais i’n strydoedd.

"Byddwn yn eich erlid gyda phopeth sydd ar gael i ni a byddwch yn mynd i’r carchar."

Nid yw'n eglur beth oedd y cymhelliad dros y saethu.

 

 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.