Palestine Action yn ennill her gyfreithiol yn erbyn penderfyniad i'w ddynodi'n grŵp terfysgol

Palestine Action - 02.2026 (PA)

Mae Palestine Action wedi ennill achos llys yn herio penderfyniad Llywodraeth y DU i ddynodi’r mudiad yn un terfysgol.

Fe wnaeth yr ymgyrchydd Huda Ammori gyflwyno her gyfreithiol ar ran y mudiad i wrthwynebu penderfyniad y cyn Ysgrifennydd Gwladol, Yvette Cooper, i'w wahardd o dan Ddeddf Terfysgaeth 2000.

Mewn gwrandawiad yn yr Uchel Lys ddydd Gwener, dywedodd y Barnwr, y Fonesig Victoria Sharp bod yr her wedi llwyddo, ond y byddai’r gwaharddiad yn parhau er mwyn galluogi dadleuon pellach.

Mae’r Ysgrifennydd Gwladol, Shabanna Mahmood, wedi dweud y bydd Llywodraeth y DU yn apelio’r dyfarniad.

Mae’r gwaharddiad, a ddaeth i rym ar 5 Gorffennaf y llynedd, yn golygu bod ymaelodi â'r mudiad neu ei gefnogi yn drosedd. Fe allai unigolion sydd yn euog o’r drosedd wynebu dedfryd o hyd at 14 mlynedd yn y carchar. 

Dywedodd Ms Ammori bod y dyfarniad yn “fuddugoliaeth arwyddocaol i’n rhyddid sylfaenol yma ym Mhrydain ac yn y frwydr dros ryddid i bobl Palesteinaidd, sydd yn diddymu penderfyniad a fydd yn cael ei gofio am byth fel un o’r ymosodiadau mwyaf eithafol ar ryddid barn yn hanes diweddar Prydain.”

“Roedd y gwaharddiad hwn yn anghyfreithlon, gan arwain at arestio bron i 3,000 o bobl yn anghyfreithlon – yn eu plith offeiriaid, cyn-ynadon a meddygon wedi ymddeol – o dan gyfreithiau terfysgaeth, a hynny am eistedd mewn distawrwydd wrth ddal arwyddion yn darllen: "Rwy’n gwrthwynebu hil-laddiad – rwy’n cefnogi Palestine Action.”

Dywedodd Ms Mahmood ei bod yn “siomedig” â phenderfyniad yr Uchel Lys.

“Daeth gwaharddiad Palestine Action yn dilyn proses benderfynu drylwyr, oedd yn seiliedig ar dystiolaeth, a gymeradwywyd gan y Senedd," meddai.

“Nid yw'r gwaharddiad yn atal protest heddychlon i gefnogi achos Palesteinaidd, pwynt arall y mae'r Llys yn cytuno arno.

“Rwy'n bwriadu ymladd y dyfarniad hwn yn y Llys Apêl.”

Roedd tua 100 o bobl y tu allan i’r Uchel Lys yng nghanol Llundain fore Gwener yn dathlu penderfyniad y llys.

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.